Beth am aros dros nos?
Ymlaciwch ar ôl diwrnod o anturiaethau yn ein llety ar y safle, sydd wedi'i foderneiddio'n ddiweddar ac sy’n cynnig 15 ystafell. Mae gan bob llety ddigon o le ar gyfer hyd at bedwar gwestai.
Mae gan bob ystafell ei hystafell ymolchi ei hun, cyfleusterau gwneud te a choffi a theledu LCD.
Yn dilyn gwaith adnewyddu llwyddiannus i Westy Cwm Dâr, byddwn ni'n mynd ati i benodi gweithredwr preswyl newydd ar gyfer tymor 2022 ymlaen. Disgwylir i'r cyfle prydles 5 mlynedd gael ei hysbysebu ym mis Tachwedd pan fydd manylion llawn ar gael. Os hoffech chi gofrestru eich diddordeb ymlaen llaw, cysylltwch â rheolwr y safle ar 01685 874672 neu anfon ebost i ParcGwledigCwmDâr@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Mae yna ystafelloedd hygyrch ar y llawr gwaelod, ynghyd â lolfa fawr i westai a mannau bwyta, lle bydd modd i chi gymdeithasu. Mae rhai o'r ystafelloedd yn addas ar gyfer cŵn.
Os yw'n well gyda chi ddod â'ch carafán, cartref modur neu babell ôl-gerbyd (yn anffodus dydyn ni ddim yn caniatáu pebyll!) mae ein safle’n cynnig golygfeydd ysblennydd o'r ardal ac mae ganddo fannau cysylltu â thrydan a bloc cawod sydd wedi'i foderneiddio'n ddiweddar.
Nawr mae modd i chi gadw lle ar gyfer eich carafán yn ein parc hardd yn www.pitchup.com. Mae gyda ni bwyntiau trydan, blociau cawod cwbl hygyrch ac erwau o olygfeydd syfrdanol - cymerwch gip!
Ffon 01685 874672 ebost darevalleycountrypark@rctcbc.gov.uk