Skip to main content

Casgliadau

 

Taith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yw lleoliad blaenllaw'r Gwasanaeth Treftadaeth a chartref Canolfan Casgliadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Sefydlwyd Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn 1986 pan ddaeth grŵp o bobl leol ynghyd i ddiogelu Glofa Lewis Merthyr, a oedd newydd gau, a'i gadw'n gofeb i'r unigolion a chymunedau oedd yn byw ac yn gweithio yn y diwydiant glo.

Heddiw, mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad twristiaeth sy'n ffynnu gydag ymwelwyr o bob cwr o'r byd yn dod i'n gweld ni. Mae ein harddangosfeydd am ddim ac ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 9am–4.30pm.

Caiff safonau amgueddfa proffesiynol o ran rheoli casgliadau eu dilyn er mwyn cynnal ei Statws Amgueddfa Achrededig, a gafodd ei wobrwyo yn 2018.

Mae'r casgliad yma'n canolbwyntio ar dreftadaeth gref Cwm Rhondda, sy'n enwog yn fyd-eang ac, yn rhan o hyn, mae sawl thema'n cael eu cynrychioli. Mae'r rhain yn cynnwys hanes cloddio a diwydiant y cymoedd, enwogion lleol a chymeriadau’r byd chwaraeon, eitemau domestig a chelfi cegin, ffasiwn, gwisgoedd a chrefydd. 

Pe hoffech chi roddi eitemau i'w cadw a'u harddangos, darllenwch y manylion isod.

Bydd y Gwasanaeth Treftadaeth yn derbyn rhoddion i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda os oes:

  • Cyswllt amlwg ac uniongyrchol gyda'r ardal neu bobl Rhondda Cynon Taf
  • Gwerth cymdeithasol, gwyddonol neu academaidd digonol er mwyn cyfiawnhau cadw a diogelu'r fath eitemau'n barhaol

Modd i'r Gwasanaeth Treftadaeth ddarparu gofal digonol, parhaus yn y tymor hir ar gyfer yr eitemau a mynediad y cyhoedd atyn nhw, heb effeithio ar safon y gofal a mynediad sy’n ymwneud â'r casgliadau presennol.

Does dim modd i'r Gwasanaeth Treftadaeth dderbyn rhoddion os:

  • Does dim gwerth cymdeithasol, gwyddonol, neu academaidd digonol er mwyn cyfiawnhau eu harddangos yn y dyfodol
  • Does dim lle digonol yn y storfa er mwyn gofalu am yr eitemau pan nad ydyn nhw'n cael eu harddangos
  • Mae risg amlwg i iechyd a diogelwch
  • Mae eitemau tebyg yn y casgliad yn barod
  • Does dim adnoddau nac arbenigedd digonol i ofalu am yr eitemau a’u rheoli

Mae pwyslais ar gasglu eitemau cyfoes i sicrhau bod themâu presennol yn parhau i gael eu cynrychioli yn y casgliad, gan ganiatáu i'r Amgueddfa adrodd hanes mwy cynhwysfawr am Rhondda Cynon Taf. Mae gan yr amgueddfa ddiddordeb hefyd mewn gwrthrychau cyfoes sy'n ymwneud â chymunedau LHDTC+, lleiafrifoedd ethnig, hanes menywod a'r pandemig COVID-19. 

Os oes gyda chi unrhyw ymholiad am roddi, cysylltwch gan ddefnyddio'r manylion isod:
E-bost: GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk
Rhif ffôn: 01443 680931

Galwch heibio i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda a llenwi ffurflen ymholi am roddi gwrthrych.