Skip to main content

Taliadau (i'r Cyngor) - Hysbysiad Preifatrwydd

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol wrth brosesu taliadau.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol wrth brosesu taliadau rydych chi'n eu gwneud i ni. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.

Mae'r Cyngor yn prosesu nifer fawr o daliadau bob dydd. Mae taliadau yma yn ymwneud â sawl peth, megis nwyddau, gwasanaethau neu achlysuron ayyb. Dyma rai enghreifftiau:

Gwasanaethau statudol a Dirwyon

  • Treth y Cyngor
  • Trethi Busnes  
  • Dirwyon Parcio  
  • Dirwyon am beidio â mynd i'r ysgol  
  • Dirwy gan y Llyfrgell (dychwelyd eitem yn hwyr)

Nwyddau a gwasanaethau sy'n codi tâl

  • Prydau Ysgol  
  • Casglu Gwastraff Mawr
  • Rhenti 'Gwifren Achub Bywyd' 

Cadw lle ac achlysuron  

  • Tocynnau theatr / sinema  
  • Gweithgareddau hamdden  
  • Tocynnau ar gyfer achlysuron sy'n codi tâl - e.e. Rasys Nos Galan, Sioe Ceir Clasur
  • Llogi Ystafell

Mae modd gwneud taliad mewn sawl ffordd, yn dibynnu ar beth yw'r taliad a sut rydych chi'n cysylltu â ni:  

  • Er enghraifft, ar-lein trwy wefan y Cyngor neu wefan trydydd parti dibynadwy
  • Wyneb yn wyneb - er enghraifft mewn Canolfan Hamdden neu Theatr
  • Wyneb yn wyneb ar ddesg hunan-wasanaeth neu Ganolfan IBobUn
  • Dros y ffôn, naill ai trwy ddefnyddio gwasanaeth talu awtomataidd neu drwy siarad gydag        ymgynghorydd.

Mae modd gwneud taliadau mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy arian parod, siec, archeb bost, cardiau debyd neu gredyd ayyb.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Bydd yr wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn amrywio gan dibynnnu ar sut rydych chi'n cysylltu â ni, eich dull talu a beth yw'r taliad. Gan amlaf, byddwn ni'n prosesu'r wybodaeth ganlynol:

  • Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost 
  • Rhif cyfeirnod (os yw'n berthnasol) 
  • Gwybodaeth ategol (e.e. disgrifiad o beth yw'r taliad) 
  • Manylion y dull talu, megis:   
    • Taliadau cerdyn credyd/debyd - rhif y cerdyn credyd/debyd, dyddiad dosbarthu'r cerdyn / dyddiad y daw'r cerdyn i ben, rhif dyroddi, rhif diogelwch ar gefn y cerdyn ayyb.
    • Siec - enw'r banc, cod didoli, rhif y cyfrif ayyb. 

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Rydyn ni'n casglu'r wybodaeth gan yr unigolyn sy'n gwneud y taliad. Mewn rhai achosion, dyma yw deiliad y cyfrif (e.e. y person sy'n talu Treth y Cyngor) neu berson sy'n gwneud taliad ar ran rhywun arall (e.e. rhiant sy'n gwneud taliad ar gyfer prydau ysgol ei blentyn).

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn:

  • Prosesu'ch taliad  
  • Neilltuo'ch taliad i'r cyfrif cywir
  • Anfon / darparu derbynneb os oes angen
  • Cysylltu â chi mewn perthynas ag unrhyw ymholiadau.

Os yw eich taliad yn ymwneud â gwasanaeth, cadw lle neu achlysur, mae'n bosibl y byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth chi er mwyn:

  • Cadarnhau eich bod chi wedi cadw lle
  • Trefnu'r gwasanaeth rydych chi wedi gwneud cais amdano e.e. Gwastraff Mawr
  • Anfon tocynnau neu gadarnhau cadw lle 
  • Cadw sedd ar gyfer yr achlysur (ble'n berthnasol)
  • Cysylltu â chi mewn perthynas â'r achlysur e.e. newid dyddiad, amser ayyb.

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma? 

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni ond yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol os oes gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny. Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol at y dibenion uchod yw:

Talu am wasanaethau / nwyddau   

  •  Sail gyfreithiol: Contract

Gwasanaethau Statudol a Dirwyon

  •  Sail gyfreithiol: cyflawni ein goblygiadau cyfreithiol / dyletswyddau statudol

Cadw lle ac Achlysuron

  •  Sail gyfreithiol: Contract

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Caiff ein systemau prosesu taliadau eu darparu gan nifer o ddarparwyr meddalwedd trydydd parti, fel sydd wedi'u nodi isod. Caiff yr wybodaeth ei phrosesu gan y darparwyr hynny at y dibenion uchod.

  • Gladstone (Gweithgareddau Hamdden)
  • CIVICA UK Limited (mae modd gwneud taliadau gan ddefnyddio'r gwasanaeth talu dros y ffôn, trwy siarad ag aelod o staff yn ein Canolfan Alwadau i Gwsmeriaid neu ar-lein ar wefan y Cyngor)
  • KPR Midlink (mae modd gwneud taliadau trwy fynd i ddesg talu hunan-wasanaeth)

Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos â Banciau, Cymdeithasau Adeiladu ac Asiantaethau Diwydiant y Cardiau Talu.

O bryd i'w gilydd, rydyn ni'n defnyddio asiantau tocynnau sy'n gyfrifol am hyrwyddo'n hachlysuron a gwerthu tocynnau ar gyfer yr achlysuron hynny ar ein rhan ni. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ticketmaster.co.uk  
  • Tickets.com  
  • Eventbrite.com

Os ydych chi'n dewis prynu tocyn gan un o'r asiantau tocynnau trydydd parti dibynadwy rydyn ni'n eu defnyddio, rydyn ni'n eich annog chi i ddarllen hysbysiad preifatrwydd yr asiant yn ogystal â'r hysbysiad yma. Bydd hyn yn sicrhau eich bod chi'n deall sut mae eich gwybodaeth bersonol chi yn cael ei defnyddio gan yr asiant.

7. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut mae'u defnyddio nhw.

8. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu pe hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â'r ffordd y mae'r Cyngor yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol chi wrth dderbyn taliad, cysylltwch â'r gwasanaeth perthnasol.