Skip to main content

Tudalen Ymweliadau Ysgolion


Mae gan Daith Pyllau Glo Cymru gynnig addysgol unigryw. Pa le gwell i ysbrydoli dysgu a chwilfrydedd nag mewn lleoliad lle dechreuodd antur ryngwladol? Mae ein hystod o sesiynau ymarferol, rhyngweithiol yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac mae modd eu cymysgu a'u cyfuno i greu diwrnod gwych. A wnaethon ni sôn bod ein arlwy addysgol wedi derbyn Gwobr Sandford?
School Visits 1
School Visits 2
School Visits 3
School Visits 4

Ydych chi'n athro sy'n chwilio am syniadau ar gyfer gwibdaith? Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn Nhrehafod yw'r dewis perffaith! Rydyn ni'n cynnig pecyn addysg sy'n rhoi profiadau dysgu gwirioneddol i'r plant, gan ategu egwyddorion Cynefin. Mae modd i hyn gynnwys taith danddaearol, gweithdai a llawer yn rhagor.
Bydd modd i ddisgyblion fynd o dan y ddaear ar Daith yr Aur Du - dyma gyfle perffaith iddyn nhw ddysgu rhagor a meithrin cysylltiadau newydd gyda'u Cynefin.

Dychmygwch eich disgyblion yn cael clywed sut beth oedd mynd dan ddaear yng nghymoedd y de – a hynny nid drwy ddarllen am y profiad mewn gwerslyfr ond drwy gael clywed am y profiad gan löwr fu'n byw’r bywyd hwnnw.

Rydyn ni'n cynnig sesiwn 20 munud o hyd rhad ac am ddim, dan ofal cyn-löwr; byddai’n cael ei chynnal mewn gwasanaeth yn eich ysgol. Drwy straeon personol a manylder unigryw, bydd y sesiwn yma yn dod â hanes diwydiannol Cymru'n fyw i'ch disgyblion mewn modd bythgofiadwy.

Ac nid dyna'r cyfan...

Fe fyddwch chi hefyd yn cael eich gwahodd i gadw lle ar ein profiad sydd wedi ennill gwobrau sef Taith yr Aur Du ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda – ymweliad sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm, lle bydd y disgyblion yn eich dosbarth yn cael blas ar gamu yn ôl troed glowyr go iawn. Fe allwn ni hyd yn oed gynnig trefniadau teithio rhatach ar gyfer eich ymweliad. Yn ogystal â hynny, pan fyddwch chi'n cadw lle fe gewch chi becyn gweithgareddau "Map o'r Pwll Glo” rhad ac am ddim. Mae'n ddeunydd perffaith i'w ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth wedi'ch ymweliad.

Rhai o'r Gweithdai Ymarferol sydd ar gael
Yn ystod yr ymweliad, bydd eich disgyblion hefyd yn cymryd rhan yn un o'n gweithdai rhyngweithiol, sy'n ennyn diddordeb. Bydd yn gyfle iddyn nhw ddysgu drwy ddarganfod mewn modd ymarferol.
Cewch ddewis o blith y canlynol:
Creigiau sy'n pweru'r byd – Stori'r glo o'r tarddiad i'r tanwydd
A Victorian Wash Day
Ysgyfaint Du – Effaith y glo ar iechyd
Portreadau a Thirluniau Cwm Rhondda – Trin a thrafod artistiaid lleol
Llwch a Pherygl – Peryglon gweithio dan ddaear
Dwndwr Twneli – Y modd mae sain yn symud mewn pwll glo
Newidiadau o ran Plentyndod – Plentyndod yn ystod oes Fictoria
Peiriannau Pwerus – Systemau pwli yn y pwll glo
Ymdrin ag Ynni – Trin a thrafod effaith glo ar yr amgylchedd

Mae'r gweithdai yma sydd wedi'u dylunio i gyd-fynd â'r cwricwlwm yn fodd o ennyn chwilfrydedd, meithrin empathi a gwneud hanes yn beth bythgofiadwy. Ond mae rhagor! Fe gewch chi'r cyfle hefyd i bori drwy straeon bywyd go iawn a bod yn rhan o brofiadau yn ein Harddangosfa Aur Du Ryngweithiol ac ar Daith Gerdded ar hyd Tramffordd sy'n daith dywys.

Parhewch â'r profiad gan ddefnyddio'n Blychau i’w Benthyg yn rhad ac am ddim

Pan fyddwch chi'n trefnu ymweliad, fe gewch chi'r cyfle hefyd i fenthyg un o'n blychau’n rhad ac am ddim. Maen nhw'n llawn arteffactau sy'n gopïau, syniadau o ran gweithgareddau ac adnoddau i athrawon. Mae'n fodd perffaith o barhau i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.

A wnewch chi roi'r gwahoddiad hwn ymlaen i'ch staff addysgu. 

I gael mwy o wybodaeth a dolennau cwricwlwm am ein gweithdai a'n blychau benthyg, please cliciwch yma.

 Am y sesiwn 20 munud am ddim: Dim ond hyn a hyn o sesiynau y mae modd eu cynnig - y cyntaf i'r felin gaiff falu. Mae sesiynau ar gael ar ddydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener a byddan nhw'n dechrau o ail wythnos mis Medi 2025 ymlaen.
Pe hoffech chi drefnu sesiwn a chael e-bost yn cadarnhau'r trefniadau, e-bostiwch DerbynfaParcTreftadaeth@rctcbc.gov.uk, gan nodi'r wybodaeth ganlynol:

Enw, cyfeiriad a chod post yr ysgol
Cyfeiriad e-bost trefnydd y sesiwnRhif ffôn cyswllt
Cyfanswm y plant a'r ystod oedran
Diwrnod ac amser dewisol (bore neu brynhawn)
Unrhyw ofynion ychwanegol i'w nodi
I gael gwybodaeth ychwanegol ynghylch ein darpariaeth addysg, e-bostiwch: gwasanaethtreftadaeth@rctcbc.gov.uk 

Er mwyn trafod ymweliad ysgol, ffoniwch 01443 682036

RHP-360-Promo