Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Gwesty'r Heritage Park

 

Coedcae Road, Trehafod, Pontypridd CF47 2NP

Gwesty 3* wedi'i leoli yng Nghymoedd hardd y De yw Gwesty'r Heritage Park. Mae'r Gwesty wedi'i leoli munudau i ffwrdd o dref hanesyddol Pontypridd ac yn daith fer o brifddinas Cymru, Caerdydd, a dinasoedd Abertawe a Chasnewydd.

Cafodd Gwesty'r Heritage Park ei adeiladu yn 1992 ger Taith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, sef hen safle Pwll Glo Lewis Merthyr. 

Mae gan y gwesty 43 ystafell, gan gynnwys Y Brif Ystafell, ystafelloedd mawr, ystafelloedd â gwely mawr, ystafelloedd dwbl ac ystafelloedd teulu, yn ogystal ag ystafelloedd sy'n addas ar gyfer pobl ag anableddau.

Mae bwyty'r Loft, yr ystafell haul a bar y Loft yn cynnig sawl bwydlen wahanol drwy gydol y dydd, gan gynnwys bwydlenni poblogaidd Cinio Dydd Sul a The Prynhawn. 

Mae yna 6 ystafell achlysuron ar y safle. Mae modd defnyddio'r ystafelloedd yma ar gyfer cynadleddau ac achlysuron, gan gynnwys Ystafell Cwm Rhondda a'r ystafell haul sydd â thrwydded ar gyfer cynnal Seremonïau Sifil.

Hefyd, mae campfa Pulse Club ar gael yn y Gwesty. Mae modd ymuno â'r gampfa yma am gost fisol isel a does dim ffi cofrestru!