Skip to main content

Casglu Coed Nadolig Go Iawn

Bydd modd i chi drefnu bod eich coeden Nadolig go iawn yn cael ei chasglu gan y Cyngor o 4 Rhagfyr ymlaen. Byddwn ni'n casglu'ch coeden rhwng 2 Ionawr a 15 Ionawr 2024. Ar ôl y cyfnod yma, bydd eich coeden yn cael ei chasglu yn rhan o'r gwasanaeth gwastraff gwyrdd. Rhaid trefnu hyn ymlaen llaw.
 

Trefnu casglu'ch coeden ar-lein:

Mae modd i chi drefnu bod eich coeden Nadolig yn cael ei hailgylchu gan ddefnyddio'n ffurflen ar-lein.

Nodwch: Does dim modd i ni gasglu coed artiffisial yn rhan o wasanaeth Casglu Coed Nadolig y Cyngor. Rhaid i chi fynd â choed artiffisial i un o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor, neu eu cynnwys nhw'n rhan o gasgliad eitemau swmpus.

* Bydd angen e-bostio ailgylchu@rctcbc.gov.uk i drefnu casgliadau coed Nadolig o ysgolion ac eiddo annomestig

Trefnu dros y ffôn:

Ffoniwch 01443 425001

Fydd y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd y mae modd ei drefnu (gan gynnwys y gwasanaeth casglu coed Nadolig 'go iawn') DDIM AR GAEL yn ystod yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun 25 Rhagfyr. Bydd y gwasanaeth arferol yn ailgychwyn ddydd Llun 15 Ionawr 2024.

Serch hynny, bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned lleol yn y gymuned drwy gydol cyfnod yr ŵyl.

Nodwch:

  • Bydd y cyfnodau o amser sydd ar gael yn cael eu monitro'n rheolaidd gan y Cyngor.
  • RHAID i drigolion drefnu amser ar gyfer casglu eu coed o leiaf 24 awr cyn eu diwrnod casglu "arferol".
  • Tynnwch yr holl addurniadau/tinsel/goleuadau o'ch coeden. Os yw'ch coeden yn uwch na 4 troedfedd, dylech chi ei thorri'n ddarnau maint rhesymol cyn ei rhoi yn y man casglu.