Skip to main content

Ailgylchu clytiau / cewynnau

Sut i gofrestru ar gyfer y cynllun Ailgylchu Cewynnau

Dyma gynllun ailgylchu cewynnau AM DDIM sy’n cael ei gynnig i drigolion Rhondda Cynon Taf.

Peidiwch â chyflwyno cais nes bod gyda chi gewynnau i'w casglu.  Efallai byddwch chi'n cael eich tynnu oddi ar yr amserlen casglu am beidio â rhoi bagiau allan i'w casglu am bedair wythnos yn olynol.

cofrestru ar gyfer y cynllun ailgylchu gewynnau

Dydy diwrnodau casglu'r cynllun ailgylchu cewynnau DDIM wedi newid a bydd cewynnau'n cael eu casglu ar y diwrnod casglu gwreiddiol. Mae'n bosibl bod y diwrnod yma'n wahanol i'ch diwrnodau casglu ar gyfer deunydd i'w ailgylchu - mae modd dod o hyd i'ch diwrnod casglu yma: www.rctcbc.gov.uk/diwrnodcasglu

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cyn pen 2 wythnos o gofrestru, byddwch chi’n cael set o fagiau porffor ar gyfer ailgylchu cewynnau. Mae’n bosibl na fydd eich bagiau porffor yn cael eu casglu ar yr un diwrnod â gweddill eich sbwriel / deunydd i’w ailgylchu.

Sut i ailgylchu cewynnau

Rhowch y cewynnau sydd wedi’u ddefnyddio yn y bag porffor. Ar eich diwrnod casglu, clymwch y bag a’i roi yn yr un lle â mae’ch sbwriel / deunydd i’w ailgylchu yn cael eu casglu fel arfer.

Cofiwch:

  • Chewch chi ddim rhoi cewynnau yn y bagiau ailgylchu clir a rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cynllun cyn y bydd unrhyw gasgliadau yn cael eu gwneud.
  • Os nad yw’ch bag/bagiau wedi cael ei gasglu / eu casglu, mae’n debygol nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y cynllun a bydd angen i chi ymuno â’r cynllun.
  • Wrth i ragor o bobl gofrestru, gall y diwrnodau casglu newid ond byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os digwydd hyn.

  • Peidiwch â gorlenwi’ch bagiau porffor. Cewch chi ddefnyddio dau fag os yw’r llall yn llawn.

  • Clymwch y bag ar y diwrnod casglu.

  • Dim ond cewynnau a chlytiau papur gwlyb a ddylai gael eu rhoi yn y bagiau porffor - os oes unrhyw wastraff arall ynddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael eu casglu.

  • Os yw cyfnod o dros 4 wythnos yn mynd heibio a dydych chi ddim wedi rhoi unrhyw fagiau porffor yn y man casglu, byddwn ni’n tybio nad ydych chi angen y gwasanaeth mwyach.  

  • Peidiwch â defnyddio bagiau mae’ch cymdogion neu ffrindiau wedi’u rhoi i chi achos fydd y rhain ddim yn cael eu casglu. Byddwn ni dim ond yn casglu o’r teuluoedd sydd wedi cofrestru.

  • Dylech chi roi’ch bagiau yn y man casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu. Ar ôl 3 blynedd, byddwn ni’n dileu’ch cyfeiriad oddi ar ein rhestr ni, a bydd rhaid i gwsmeriaid ailgofrestru i barhau i fod yn rhan o’r cynllun ar ôl 3 blynedd.

Angen rhagor o fagiau?

Gwneud cais am anfon bagiau ailgylchu i'ch tŷ

Neu, croeso i chi ffonio 01443 425001

Ymestyn eich tanysgrifiad

Mae modd i chi ymestyn eich tanysgrifiad am 1 i 3 blynedd arall arlein.

Rhoi gwybod am newid i gyfeiriad

Mae modd i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru newid eu cyfeiriad ar-lein

Ceisiwch roi gwybod i ni o leiaf wythnos cyn i chi symud oherwydd ei bod hi’n bosibl y bydd eich diwrnod casglu’n newid hefyd.

Sut i adael y cynllun ailgylchu cewynnau.

Mae modd i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru wneud cais i beidio â bod yn rhan o'r cynllun casglu cewynnau ar-lein.

Nodwch: os yw cyfnod o dros 4 wythnos yn mynd heibio a dydych chi ddim wedi rhoi unrhyw fagiau porffor yn y man casglu, byddwn ni’n tybio nad ydych chi angen y gwasanaeth mwyach.

Bagiau heb eu casglu

Rhaid eich bod chi wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ailgylchu cewynnau cyn bod modd i'r Cyngor casglu eich bagiau porffor.

Os nad ydych chi wedi cofrestru, mae modd gwneud hynny ar-lein neu ffoniwch ni ar 01443 425001.

Os ydych chi wedi ailgofrestru’ch manylion a dydy’ch bag porffor ddim wedi cael ei gasglu, sicrhewch nad yw’ch diwrnod casglu wedi newid.  

Os ydych chi wedi ailgofrestru ac wedi gwirio’ch diwrnod casglu, a dydy’ch bagiau porffor ddim wedi cael eu casglu erbyn 3pm ar y diwrnod casglu, rhowch wybod i ni ar-lein.