Skip to main content

Angen rhagor o fagiau?

Bagiau ailgylchu clir a bagiau ailgylchu gwastraff bwyd

Mae bagiau ailgylchu clir a bagiau ailgylchu gwastraff bwyd ar gael i'w casglu o'r lleoliadau canlynol

Dim ond at y diben a nodir y dylid defnyddio'r bagiau yma. Nodwch fod cyfyngiad llym, sef 2 rolyn o bob bag fesul person. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan y man dosbarthu ddigon o fagiau rhwng diwrnodau dosbarthu. Does dim modd archebu bagiau ailgylchu clir a bagiau ailgylchu gwastraff bwyd ar-lein mwyach:

Cewynnau/Anymataliaeth - Bagiau Porffor

Mae modd i gwsmeriaid sydd wedi'u cofrestru archebu Cewynnau/Anymataliaeth - bagiau porffor ar-lein.

Sachau Gwastraff Gwyrdd

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd, mae modd i chi archebu rhagor o sachau ar-lein.

 

Dim ond at y diben a nodir y dylid defnyddio'r bagiau/sachau i gyd. Nodwch fod cyfyngiad llym, sef 2 rolyn o bob bag ailgylchu a gwastraff bwyd fesul person. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan y man dosbarthu ddigon o fagiau rhwng diwrnodau dosbarthu. 

Does dim modd archebu bagiau ailgylchu clir a bagiau ailgylchu gwastraff bwyd ar-lein mwyach. Mae hyn er mwyn bodloni'r galw mawr am fagiau mewn mannau dosbarthu a chaniatáu i'r Cyngor ganolbwyntio ar y dull mwyaf poblogaidd i drigolion gasglu bagiau ailgylchu. Mae hyn hefyd yn cyfrannu at leihau ôl troed carbon y Cyngor.

Mae'r Cyngor wedi gwella cryfder y bagiau ailgylchu gwastraff bwyd, gan eu gwneud nhw’n llai tebygol o hollti a thorri. Felly, bydd y bagiau bwyd mawr yn cael eu dileu'n raddol o fis Ebrill 2023. Bydd yr un bag ar gyfer gwastraff bwyd yn gwneud ailgylchu bwyd yn haws, a bydd yn helpu'r Cyngor i arbed tua £500,000 y flwyddyn. Mae bagiau bwyd yn dal i fod yn rhad ac am ddim ac mae modd eu casglu nhw o fannau dosbarthu lleol.