Skip to main content

Newyddion

Adroddiad cynnydd ar waith parhaus yn dilyn Tirlithriad Tylorstown

Adroddiad cynnydd ar waith parhaus yn dilyn Tirlithriad Tylorstown

Mae'r gwaith presennol yn cynnwys gwaith tir, cludo deunydd y domen sy'n weddill i safle derbyn, adeiladu isadeiledd mewn ardaloedd derbyn a gwaith yn rhan o raglen ddraenio wedi'i hymestyn

16 Mai 2024

Mae'r Sioe Ceir Clasur yn dod i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn ystod yr haf eleni!

Mae'r Sioe Ceir Clasur yn dod i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn ystod yr haf eleni!

Dyma achlysur gwych i'r teulu cyfan ei fwynhau, gyda chyfle i weld ceir clasur mewn cyflwr arbennig a chwrdd â'u perchnogion brwdfrydig a gwybodus. Mae'r cyfan yn digwydd ddydd Sadwrn, 29 Mehefin, rhwng 10am a 4pm.

15 Mai 2024

Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau i gerddwyr a beicwyr

Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau i gerddwyr a beicwyr

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau cyllid gwerth £6.94 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'i chronfeydd Teithio Llesol a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer 2024/25 - er mwyn bwrw ymlaen â chynnydd a darpariaeth sawl...

14 Mai 2024

Cynnal gwaith atgyweirio ar wal a glan afon ar hen safle tomen ym Mhenrhiw-ceibr

Cynnal gwaith atgyweirio ar wal a glan afon ar hen safle tomen ym Mhenrhiw-ceibr

Mae'r gwaith yn cael ei gynnal ger Cae Chwaraeon Pentwyn, sydd wedi'i adeiladu ar domen gwastraff pyllau glo - mae'r wal gynnal a glan yr afon wedi'u lleoli ar waelod yr hen domen

14 Mai 2024

Cau maes parcio ym Mhontypridd ar gyfer gwaith glanhau a chynnal a chadw

Dyma roi gwybod i drigolion ac ymwelwyr â chanol tref Pontypridd y bydd maes parcio Heol Berw ar gau am wythnos o 20 Mai. Bydd angen cau'r cyfleuster er mwyn cynnal gwaith glanhau trylwyr a gwaith atgyweirio hanfodol

13 Mai 2024

Troi Ponty yn Las ar gyfer Wythnos Gweithredu Dementia 2024

Sefydlwyd Wythnos Gweithredu Dementia gan Gymdeithas Alzheimer's, ac mae'n ymgyrch ranbarthol a blynyddol sy'n cael ei chynnal rhwng dydd Llun, 13 Mai a dydd Sul, 19 Mai.

13 Mai 2024

Pythefnos Gofal Maeth 2024: Rhiant Maeth yn Rhondda Cynon Taf yn 'Cynnig Rhywbeth' i Gefnogi Pobl Ifainc yn yr Ardal

Y Pythefnos Gofal Maeth™ yma, mae Maethu Cymru Rhondda Cynon Tafyn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn rhieni maeth i gefnogi pobl ifainc mewn angen.

13 Mai 2024

Penodi Maer Newydd

Y Cynghorydd Dan Owen-Jones yw Maer newydd Rhondda Cynon Taf, ar ôl cael ei benodi yn ystod 29ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher, 8 Mai 2024.

10 Mai 2024

Cam nesaf cynllun pont droed Trefforest yn cynnwys gwaith yn yr afon

Bydd trigolion yn gweld pontynau'n cael eu defnyddio yn yr afon ger pont droed Castle Inn dros yr wythnosau nesaf, wrth i'r contractwr gynnal cam nesaf y gwaith sydd wedi'i drefnu. Bydd y bont droed yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith

10 Mai 2024

Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau y Ddraenen-wen yn dechrau ar y safle

Bydd gwaith yn dechrau'n fuan er mwyn gwella cyfleusterau lleol i gerddwyr a'r llwybr diogel at yr ysgol yn y Ddraenen-wen. Bydd hyn yn mynd law yn llaw â'r buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau addysg modern sy'n cael ei ddarparu ar...

08 Mai 2024

Chwilio Newyddion