Skip to main content

Newyddion

Contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer cam nesaf gwaith tirlithriad Tylorstown

Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr ar ôl cael caniatad cynllunio llawn ar gyfer cam mawr nesaf y gwaith ar safle tirlithriad Tylorstown. Bydd y cam yma'n cynnwys adfer y domen sy'n weddill ar ochr y bryn ac ail-broffilio'r domen uchaf

14 Tachwedd 2022

Ngorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio Pontypridd

Dyma wahoddiad i bawb o bob cwr o Rondda Cynon Taf ddod at ei gilydd yng Ngorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio Pontypridd i dalu teyrnged i'r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf dros eu gwlad.

11 Tachwedd 2022

Elusen leol wedi helpu pobl ag anableddau dysgu ers 25 mlynedd

Mae Pobl yn Gyntaf Cwm Taf yn dathlu 25 mlynedd o waith yn rhoi cymorth i bobl ag anableddau dysgu! Yn rhan o'u dathliadau pen-blwydd, maen nhw'n gofyn yn garedig am roddion ariannol i barhau â'u gwaith amhrisiadwy yn ein cymunedau

11 Tachwedd 2022

Yn Angof Ni Chânt Fod

Ar Ddiwrnod y Cadoediad 2022, rydyn ni'n cofio am y rheiny a fu farw yn ystod y ddau ryfel byd a'r holl wrthdaro sydd wedi bod ers hynny. Byddwn ni'n ymunod â gweddill Cymru a'r DU mewn dwy funud o dawelwch am 11am, 11 Tachwedd

11 Tachwedd 2022

Achlysuron yn y gymuned ac ysgolion lleol i nodi Wythnos Diogelwch y Ffyrdd 2022

Bydd y Cyngor yn cymryd rhan yn ymgyrch flynyddol Wythnos Diogelwch y Ffyrdd sy'n cael ei chynnal gan elusen Brake. Bydd cyfres o weithgareddau'n cael eu cynnal mewn cymunedau ac ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf o 14 Tachwedd

10 Tachwedd 2022

Gorchymyn Cau Siop o ganlyniad i Weithgarwch Anghyfreithlon

Mae gorchymyn i gau am dri-mis wedi'i gyflwyno i siop yn y Cymoedd yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Merthyr Tudful

10 Tachwedd 2022

Ymgynghoriad ar Wasanaethau Llyfrgell o Bell

Hoffen ni gael barn ein trigolion ar ein Gwasanaethau Llyfrgell o Bell yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus. Fe gewch chi ddweud eich dweud tan ddydd Iau, 1 Rhagfyr

10 Tachwedd 2022

Wedi'i Erlyn Am Werthu Cynhyrchion Tybaco Anghyfreithlon

Mae cyfarwyddwr siop o Rondda Cynon Taf wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus gan adran Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf am werthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon

10 Tachwedd 2022

Pont Imperial i ailagor mis yma yn dilyn cwblhau'r atgyweiriadau yng ngham cyntaf y cynllun

Bydd cam cyntaf y gwaith atgyweirio ac adnewyddu ar Bont Imperial, Porth yn cael ei gwblhau yn fuan – a fydd yn galluogi rhan y bont o Heol Pontypridd ailagor ddiwedd y mis yma. Mae atgyweiriadau pellach i gwblhau'r gwaith yma wedi'u...

10 Tachwedd 2022

Cyrraedd Carreg Filltir wrth agor Cyfleuster 3G Newydd

Cyrraedd Carreg Filltir wrth agor Cyfleuster 3G Newydd

09 Tachwedd 2022

Chwilio Newyddion