Bar Grey Trees Brewery Ltd.
|
Mwynhewch y Bar a’r Ardd Gwrw sy’n cael ei redeg gan y bragwyr crefft annibynnol lleol Grey Trees Brewery a fydd yn gweini lager, cwrw, seidr, gwin, diodydd meddal, gin, fodca a mwy.
|
Bwyd
|
Eitemau ar werth
|
Allys Confectionery
|
Dewch i'r stondin yma i gael losin hen ffasiwn mewn tybiau cwbl ailgylchadwy, tybiau difyr, dymis, lolis, cyffug a diodydd meddal.
|
Bloom Sugar Cakes
|
Maen nhw'n gwerthu amrywiaeth o gwcis gan gynnwys pasteiod cwci, a llawer o eitemau sawrus gan gynnwys rholiau selsig, wyau selsig a phasteiod.
|
Cruz Café
|
Prynwch goffi a diodydd poeth ac oer eraill yma
|
Davisons Artisan Chocolate & Fudge
|
Maen nhw'n gwerthu amrywiaeth o flasau poblogaidd a chyfoes o gyffug, bariau siocled wedi'u llenwi a'u paentio â llaw, 'bon bons' siocled, fflapjacs cyffug a'r bariau pistachio poblogaidd a ysbrydolwyd gan 'Dubai' a llawer mwy!
|
DeLIZscious Delights
|
Fel y mae'r enw'n ei awgrymu, mae modd i chi ddod o hyd i nwyddau pobi hyfryd ac anrhegion siocled melys.
|
Dinky Donuts
|
Toesenni bach wedi'u coginio'n ffres, diodydd poeth ac oer, 'conydd eira', candi-fflos a mwy.
|
Doughnutterie
|
Mae dewis gwych o doesenni wedi'u gwneud â llaw ac eitemau becws yma.
|
Eleri's Welshcakes
|
Mae pob math o gacennau cri cartref i'w gweld yma.
|
Gourmet Gower Fudge
|
35 o fathau o gyffug wedi'u gwneud â llaw gan gynnwys opsiynau fegan a heb glwten.
|
Gower Doughnut Co.
|
Toesenni blasus wedi'u gwneud â llaw o'r newydd gan ddefnyddio cynhwysion lleol.
|
Happy Dumpling 365
|
Mae Happy Dumpling 365 yn fusnes teuluol sy'n arbenigo mewn prydau Tsieineaidd traddodiadol. Mae ein bwydlen yn cynnwys twmplenni cartref o rysáit teulu sy'n 100 oed, byns bao, tofu sbeislyd, crempogau llysiau crensiog a crepes Tsieineaidd.
|
Icecool
|
Hufen iâ, 'Slush', lolis iâ, diodydd meddal a phob dim rhewllyd sydd ar gael yma.
|
Krazy Crepes
|
Mwynhewch grêp blasus gyda llenwadau melys neu sawrus.
|
Lilwen's Welshcakes
|
Teisennau cri traddodiadol a wnaed â llaw. Mae detholiad bach o deisennau hambwrdd fegan hefyd ar gael.
|
Marie Cresci's Cheesecakes
|
Cacennau caws cartref, profiteroles, tafelli, bomiau a thoesenni.
|
Noodles To Go
|
Bob amser yn boblogaidd yng Ngŵyl Aberdâr! Prynwch nwdls tro-ffrio (cyw iâr, cig eidion, hwyaden, llysieuol), crempogau llysiau cartref, kimchi a byns wedi'u stemio yma.
|
Penaluna’s Famous Fish and Chips
|
Mae ciw bob amser ar gyfer y siop sglodion traddodiadol yma sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r fwydlen yn cynnwys eu pysgod a sglodion enwog, selsig, nygets cyw iâr ac wrth gwrs - grefi a sawsiau cyri.
|
Piaggio Frizzante
|
Lager Eidalaidd, coctels, lemonêd meddal a diodydd meddal.
|
Rhianwen's Bakes
|
Cacennau cwpan, toesenni, brownis, sleisys cacen, blondis, malws melys, 'slyshis', rholiau selsig, peis corn-bîff a myffins sawrus.
|
Scoffle ya Waffle
|
Wafflau blasus ar ffon, crofflau wedi'u llwytho, conau ffrwythau a diodydd.
|
Signore Slush
|
Slyshis, hufen iâ, diodydd meddal, coffi.
|
Signore Twister
|
Mynnwch flasu'r troellwr tatws a'r troellwyr wedi'u llwytho enwog yma! Diodydd meddal a choffi ar gael hefyd.
|
Spuds on the Run
|
Mae pob math o datws yma gan gynnwys tatws pob, tatws melys drwy'i crwyn a sglodion wedi'u llwytho.
|
Top Dog Snow cones
|
Conau eira blasus!
|
Crefftau -
|
Eitemau ar werth
|
Beauty Unbound by Karla
|
Cynhyrchion Oriflame, gofal croen, gofal gwallt, gofal y corff, persawr.
|
Classy Canine Creations
|
Ategolion cŵn, tenynnau, teganau cyfoethogi, danteithion naturiol.
|
Crystal Crysalis
|
Crisialau amrwd a chaboledig go iawn ym mhob ffurf megis tyrau, sfferau a cherfiadau. Maen nhw'n gwerthu cerrig cledr (palmstones), breichledau, arogldarth a phecynnau anrhegion.
|
End Of The Line
|
Hetiau, sbectol haul, clustogau ffotograff, cylchau allweddi.
|
Kidz Fun
|
Trefnwch eich tatŵs glitr a phaentiwch eich wynebau ar gyfer yr ŵyl yma!
|
My Little Pests
|
Ategolion gwallt plant, gemwaith a sbectolau haul.
|
Pasithea
|
Lluniau cerrig mân, calonnau llechi, celf acrylig, olewau hanfodol a llosgwyr, conau/ffyn arogldarth, llosgwyr arogldarth, bomiau bath, canhwyllau persawrus, pethau difyr i blant.
|
Pocket Money Treasures
|
Teganau, gemwaith a hetiau haf am brisiau arian poced.
|
Sparkletastic
|
Peintio wynebau, tatŵs sgleiniog, a phlethu gwallt.
|
Stondinau Gwybodaeth
|
|
Coleg y Mynydd Du
|
Gwybodaeth ac arddangosiadau gwaith pren.
|
Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf
|
Gwybodaeth a gemau carnifal
|
Dŵr Cymru
|
Cynnig cyngor i gwsmeriaid ar sut i arbed arian ac ynni.
|
Cyfeillion Parc Aberdâr
|
Dewch o hyd i drugareddau ar werth yma i gefnogi Parc Aberdâr yn ogystal â gwybodaeth a gweithgareddau i blant.
|
Maethu Cymru
|
Codi ymwybyddiaeth o faethu gan yr awdurdod lleol yn y gymuned.
|
Hairglaze
|
Cynhyrchion gofal croen wedi'u gwneud â llaw, cynhyrchion ar gyfer y corff a'r gwallt, sebonau, bomiau bath a chanhwyllau 'wax melt'.
|
Llais Cymru
|
Stondin wybodaeth a chyfle i sgwrsio â'r garfan am eich profiadau ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.
|
Peter Alan
|
Gwerthwyr Tai
|
Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Cyngor Rhondda Cynon Taf
|
Gwybodaeth am Wasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor
|
RSPB
|
Mae'n cynnig gwybodaeth am brosiectau RSPB a sut mae modd i ni i gyd ofalu am fywyd gwyllt a byd natur.
|