Skip to main content

Beth sy' 'mlaen

Fel bob blwyddyn, bydd llawer o adloniant o gwmpas Parc Aberdâr hefyd.
Rhu-feddwch at y sioe ddeinosoriaid am ddim! Fe gewch chi brofiad Jurassic Park gyda Raptors World! Ewch draw i gwrdd â'r deinosoriaid cwbl ryngweithiol yma a'u tîm o geidwaid arbenigol.  Bydd modd i chi eu gweld nhw sawl gwaith yn ystod y dydd.
Bydd Picnic y Tedis yn ymuno â'r ŵyl wrth iddo fynd ar daith ar gyfer 2025 gyda gweithgareddau i blant 5 oed ac iau a gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid.
Bydd fferm anwesu anifeiliaid, teithiau ar gefn asyn, ffair ac wrth gwrs, bydd y llyn cychod ar agor gyda'i gychod padlo elyrch a dreigiau.
Mae llawer o bethau i'w gweld mewn diwrnod felly teithiwch o gwmpas y parc mewn steil ar y Trên Tir. Ewch ar y trên cynifer o weithiau ag yr hoffech chi drwy'r dydd am £1 yn unig.