Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i lawer o atyniadau twristiaid unigryw. Cewch chi fynd dan ddaear yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, bathu darn arian ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol, gwylio sioe yn un o'n theatrau hardd, nofio yn Lido Cenedlaethol Cymru neu siopa yng nghanol un o'n trefi gwych.
Cyfunwch hyn â'r golygfeydd anhygoel a pharciau gwledig a chewch chi dreulio penwythnos gwych yn Rhondda Cynon Taf. Am ysbrydoliaeth o ran pethau i'w gwneud a gwybodaeth am bob un o'n hatyniadau:
www.croesorhct.cymru
Mae rhai atyniadau sydd ar stepen drws Parc Aberdâr wedi'u nodi isod.
Theatr y Colisëwm (Mount Pleasant Street, Aberdâr CF44 8NG):
Parc Gwledig Cwm Dâr (Aberdâr CF44 7RG)
Amgueddfa Cwm Cynon (Depot Rd, Y Gadlys, Aberdâr, CF44 8DL)