Skip to main content

Gwybodaeth i Ymwelwyr

 

Cyfleusterau'r safle Toiledau, caffi, llyn cychod, cyrtiau tenis, llwyfan band, meinciau sefydlog, bowls awyr agored, ac ardaloedd glaswellt helaeth ar gyfer cynnal picnics.

Cyfleusterau oddi ar y safle – Peiriannau arian parod, tafarndai, bwytai, marchnad dan do a chanolfan siopa (o fewn 10 munud o'r parc).

Cyfleusterau i'r anabl – Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal mewn parc cyhoeddus, felly, mae ar agor i bawb yn ystod ei oriau agor. Mae yna lwybr tarmac o amgylch y parc, ynghyd â llwybrau sy'n arwain i nodweddion eraill y parc fel y caffi, y llyn, y cyrtiau tennis a'r ardal chwarae. Mae mynediad i'r parc ac i'r nodweddion yma yn dda i gwsmeriaid anabl, gan gynnwys y sawl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn.

Bydd nifer o'r atyniadau sydd yna yn rhan o Ŵyl Aberdâr wedi'u lleoli ar y cae gan fod yno ddigon o le. Mae tir y cae yn anwastad, ac felly dyw e ddim yn llwyr hygyrch i gwsmeriaid anabl. 

Lle mae'n bosibl, mae Carfan Achlysuron Cyngor RhCT yn ceisio datrys y problemau yma drwy ddefnyddio'r parc cyfan er mwyn sicrhau bod modd defnyddio/gweld/clywed y mwyafrif o'r atyniadau. Serch hynny, rhaid nodi dydy hyn ddim yn bosibl ar gyfer pob un o'r atyniadau sydd yn digwydd yn yr achlysur.

Parcio – Bydd parcio AM DDIM yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddwyr yr Eglwys yng Nghymru, CF44 8BW, ac yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, CF44 8NG – mae'r ddau leoliad yn agos i Barc Aberdâr. Does dim maes parcio ar gael i ymwelwyr ym Mharc Aberdâr, ac eithrio chwe lle parcio i ymwelwyr anabl.

Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i Barc Aberdâr yn dda iawn. Mae Stagecoach yn cynnig mannau gollwng ar hyd y B4275, sef y ffordd gyfagos i'r parc. Mae modd i ymwelwyr sy'n teithio i fyny'r cwm ddefnyddio arosfannau ger Giatiau'r Parc a thafarn y Cross Inn. Mae modd i ymwelwyr sy'n teithio i lawr y cwm ddefnyddio arosfannau Ysgol Gynradd Parc Aberdâr a Giatiau'r Parc. Ewch i www.trc.cymru ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf.

Cŵn – Mae hawl i gŵn fod yn y parc, ond rhaid iddyn nhw fod ar dennyn ar bob adeg.

Hysbysiad yr Ŵyl – Does dim hawl dod ag unrhyw un o'r eitemau canlynol i'r parc: pennau laser, tân gwyllt, alcohol, unrhyw arf gan gynnwys gwrthrychau miniog, sylweddau anghyfreithlon. Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr, ac mae gan staff diogelwch yr hawl i wrthod eitemau, maen nhw'n ystyried eu bod nhw'n anniogel, rhag dod ar y safle.

Achlysur dim goddefgarwch o alcohol yw Gŵyl Aberdâr. Caiff archwiliadau diogelwch ar hap eu cynnal ar y rheiny sy'n dod i mewn i Barc Aberdâr, a byddwn ni'n cadw llygad barcud drwy'r dydd. Os bydd staff diogelwch yr achlysur, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu neu unrhyw staff yr heddlu sy'n bresennol yn dod o hyd i alcohol, bydd yn cael ei atafaelu. Os ydych chi'n gwrthod, byddwch chi'n cael eich anfon o'r achlysur.

Bydd ffotograffydd swyddogol y Cyngor ar y safle drwy gydol y dydd yn tynnu lluniau. Efallai y bydd y lluniau yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol neu'n cael eu defnyddio at ddefnydd marchnata er mwyn hyrwyddo'r achlysur.