The Artisan Cook
|
Pitsas ffwrn goed ffres - pitsas margherita, pitsas cig a rhagor!
|
The Artisan Portuguese Pastry Bakery
|
Rhowch gynnig ar amrywiaeth o gacennau Pastel De Nata (tarten gwstard o Bortiwgal) blasus yma! Mwynhewch y danteithion gyda ffrwythau ffres neu Nutella - mae opsiynau fegan hefyd ar gael ynghyd â thartenni sawrus bach bacwn a chaws, cyw iâr a chennin, caws a chennin llysieuol, rholiau selsig, teisennau crwst cig eidion a bacwn a chaws. Nefoedd i bobl sy'n hoff o deisennau crwst!
|
Ally's Confectionary
|
Dewch i'r stondin yma i gael losin hen ffasiwn mewn tybiau cwbl ailgylchadwy, tybiau difyr, dymis, lolis, cyffug a diodydd meddal.
|
Bloom Sugar Cakes
|
Melysion melys wedi'u pobi yma! Mae'r danteithion sydd ar gael yn cynnwys pasteiod cwcis, teisen frau miliwnydd, sleisys cwstard, Rholiau Selsig crefftus, pasteiod, ŵy selsig, tartiau, byns sinamon a stromboli.
|
Baker Bears
|
Ydych chi'n hoff o bethau melys? Edrychwch dim pellach na Baker Bears Cupcakes, Cakesicles a Cake Jars. Mae'r cwcis yn arbennig iawn hefyd – maen nhw'n cael eu coginio fel pasteiod ac yn llawn danteithion ychwanegol.
|
Bocs Pwdin
|
Mae Bocs Pwdin wedi'i leoli dim ond tafliad carreg o Gegaid o Fwy Cymru, ym Mhontypridd! Yma, mae modd i chi ddod o hyd i frownis, blondis, bisgedi wedi'u stwffio, pasteiod cwcis, cacen ysgol a chacennau mewn jariau.
|
Best Whippy
|
Mae modd dod o hyd i hufen iâ, lolipops a rhagor yn y fan hufen iâ draddodiadol yma.
|
Cruz Café
|
Hoffi coffi? Os ydych chi, yna mae digon o ddewis yng ngŵyl Cegaid o Fwyd Cymru i chi! Mae Cruz Café yn cynnig coffi a choffi rhewllyd o safon uchel.
|
Chang's Wok
|
Y lle perffaith i gael bwyd i fynd ar nos Sadwrn (a Sul)! Mae prydau sydd ar gael yn cynnwys Nwdls Cyw Iâr, Nwdls Badboi, Nwdls Madarch, Rholyn Crempog Jymbo, Peli Cyw Iâr Melys a Sur, Peli Cyw Iâr Crensiog Katsu, Sglodion Changalang a Sglodion Halen a Phupur.
|
Cookies and Co
|
Yma fe gewch basteiod, cwcis trwchus, cwcis wedi'u stwffio a phentyrrau cwcis
|
Chock Shop
|
Bydd brownis siocled Gwlad Belg – gan gynnwys opsiynau di-glwten a fegan – ar werth yma. Mae modd gweini'r cyfan gyda saws siocled cynnes, hufen chwipio ffres a mefus.
|
Dinky Doughnuts
|
Chwant toesen fach ffres, diod iâ mân, neu gandi fflos? Bydd y rhain i gyd i'w prynu o stondin Dinky Doughnuts!
|
Dirty Gnocchi
|
Mae Dirty Gnocchi bob amser yn ffefryn yn achlysur Cegaid o Fwyd Cymru, ac maen nhw'n dychwelyd yn 2025 gyda'u gnocchi wedi'i ffrio blasus. Mae'r olwyn gaws fawr yn dychwelyd hefyd!
|
Davisons Artisan Chocolate Fudge
|
Maen nhw'n gwerthu amrywiaeth o flasau poblogaidd a chyfoes o gyffug, bariau siocled wedi'u llenwi a'u paentio â llaw, 'bon bons' siocled, fflapjacs cyffug a'r bariau pistachio poblogaidd a ysbrydolwyd gan 'Dubai' a llawer mwy!
|
Delizcious Delights
|
Fel y mae'r enw'n ei awgrymu, mae modd i chi ddod o hyd i nwyddau pobi hyfryd ac anrhegion siocled melys.
|
Doughnutterie
|
Mae dewis gwych o doesenni wedi'u gwneud â llaw ac eitemau becws yma.
|
Doughnutters
|
Mwynhewch doesenni sgleiniog Americanaidd MAWR yma. Meddal fel clustog, wedi'i orchuddio â gwydredd melys, sgleiniog perffaith sy'n toddi yn eich ceg gyda phob brathiad.
|
Down To Zero
|
Mêl a chynnyrch tymhorol ffres sy’n cael eu tyfu a’u cynhyrchu yn Rhondda Cynon Taf
|
Emburs Dessert Bar
|
O flondis moethus a brownis dwys i Rocky Road afradlon a phasteiod cwci syfrdanol, mae'r casgliad yma o deisenni hambwrdd crefftus yn cynnig ystod o flasau syfrdanol, pob un wedi'i cynhyrchu gyda'r cynhwysion Cymreig gorau.
|
Evans Above Food Co
|
Fan Pysgod a Sglodion glasurol yn gweini pysgod a sglodion wedi'u coginio'n arbenigol, ochr yn ochr â byrgyrs gourmet, selsig crensiog mewn cytew, pasteiod, pastai a phrydau plant. Hefyd, rydyn ni'n cynnig seigiau arbennig dyddiol deniadol, gan gynnwys cyri cyw iâr, cyrri cyw iâr halen a phupur a gyros blasus.
|
Eleri's Welsh Cakes
|
Mae detholiad hyfryd o flasau traddodiadol a modern yn aros, gan gynnig tro ffres ar y clasur Cymreig yma.
|
Fat Bottom Welsh Cakes
|
Mae detholiad o gacennau Cymreig blasus yn aros amdanoch chi, gan gynnwys lemwn, caramel hallt moethus, lafant a mêl, ynghyd â'r rysáit draddodiadol.
|
The Fudge Foundry
|
Cyffug siocled Gwlad Belg moethus, ar gael mewn amrywiaeth o flasau crefftus unigryw. Mwynhewch flasau sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys caramel hallt cyfoethog, meringue lemwn, fanila hufennog, a siocled oren —ynghyd â phencampwr y llynedd, y cyffug caramel hallt fegan. Nid dyna’r cyfan o ddanteithion siocled Gwlad Belg – mwynhewch flas ar fariau moethus, diliau mêl creision, malws melys a chymysgwyr siocled poeth.
|
Gourmet Gower Fudge
|
Yn Gourmet Gower Fudge mae modd i chi ddod o hyd i ddetholiad deniadol o 35 math o gyffug a nougat, gan gynnwys opsiynau fegan a di-glwten blasus i weddu i bob chwaeth.
|
Gower Doughnut Co
|
Toesenni wedi'u gwneud â llaw gyda chynhwysion tymhorol o ffynonellau lleol, gan sicrhau bod pob brathiad yn ffres, yn llawn blas, ac yn flasus dros ben.
|
Grazeful Feasts
|
Danteithion sawrus a melys, gan gynnwys blychau/cwpanau bach, wyau selsig, rholiau selsig, olwynion caws, casgenni caws, brownis, blondis, bisgedi, pasteiod cwcis, teisennau. Mae brownis fegan, bisgedi a theisen frau addurnedig hefyd ar gael.
|
Hay! Espresso
|
Coffi wedi'i grefftio gan farista, siocledi poeth moethus, te arbenigol, a detholiad deniadol o blondis, brownis, cacennau a bisgedi – i gyd wedi'u gweini ag ansawdd a gofal.
|
Hello Good Pie
|
Pasteiod sawrus blasus wedi'u gwneud â llaw, wedi'u paratoi gan ddefnyddio cig eidion, oen a chyw iâr organig o ffynonellau lleol. Mae seigiau'n cynnwys tatws stwnsh, sglodion, pys a grefi.
|
Hoggets Hog Roast
|
Wedi'i rostio'n araf am hyd at 16 awr ar gig moch traddodiadol, mae Hoggets Hog Roast yn darparu blas nad oes modd ei guro. Mwynhewch rôl porc blasus gyda stwffin a chrofen greisionllyd, ochr yn ochr â selsig gourmet 12 modfedd gyda nionod, byrgyr cig eidion Cymreig clasurol, crempogau wedi'u gwneud â llaw, a detholiad o ddiodydd poeth ac oer.
|
Happy Dumpling 365
|
Mae Happy Dumpling 365 yn fusnes teuluol sy'n arbenigo mewn prydau Tsieineaidd traddodiadol. Mae'r fwydlen yn cynnwys twmplenni cartref o rysáit teulu sy'n 100 oed, byns bao, tofu sbeislyd, crempogau llysiau crensiog a crepes Tsieineaidd.
|
Ice cool
|
Yn gweini hufen iâ, lolis a diodydd iâ o fan hufen iâ draddodiadol.
|
Keralan Karavan
|
Dyma fwyd Indiaidd gwych gan gynnwys y byrgyr Raj a sglodion masala mawreddog.
|
Krazy Crepes
|
Crepes a thoesenni i fodloni'ch dant melys! Peidiwch â phoeni – os oes yn well gyda chi grempogen sawrus, mae digon o ddewis o'r rheiny ar gael i chi hefyd!
|
Lili Wen Welshcakes and Bakes
|
Cacennau Cri Cymreig cartref yn gwerthu'r danteithion traddodiadol ynghyd ag ystod o flasau megis lemwn a siocled gwyn, siocled oren a mwy!
|
Little Grandma's Kitchen
|
Prynwch gatwad, marmalêd, jam, mwstard, craceri a rhagor yma i'w mwynhau gartref.
|
Marie Cresci's Cheesecakes
|
Mwynhewch gacennau caws cartref, sydd ar gael mewn tybiau, profiteroles moethus, sleisys cyfoethog, a bomiau cacennau caws moethus—wedi'u gwneud ar gyfer mwynhad pur.
|
MKS Food Distribution
|
Olifau, cnau, Turkish Delight a baclafa - beth am brynu byrbryd yma?
|
Nuts About Cinnamon
|
Cyfoeth o gnau! Rhowch gynnig ar gnau almwn, pecan, pysgnau a chyll.
|
Noodles to Go
|
Nwdls sy'n cael eu coginio'n ffres mewn wok. Mae hefyd modd prynu kimchi a chrempogau llysiau cartref yma. Yn bendant dyma un o ffefrynau ymwelwyr Cegaid o Fwyd Cymru.
|
Penaluna's Famous Fish and Chips
|
Mae ciw bob amser ar gyfer y siop sglodion traddodiadol yma sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r fwydlen yn cynnwys eu pysgod a sglodion enwog, selsig, nygets cyw iâr ac wrth gwrs - grefi a sawsiau cyri.
|
Pete's Shop
|
Mae busnes arall o Bontypridd yn ymuno â ni eleni yn gwerthu detholiad o gynnyrch lleol a Chymreig, gan gynnwys mêl, cwyr gwenyn, sawsiau sbeislyd, siytni, jamiau a phicls, bara lawr a diodydd meddal Cymreig.
|
Scoffle ya Waffle
|
Mwynhewch wafflau blasus ar ffon, crofflau llawn blas, conau ffrwythau ffres, a diodydd meddal i dorri syched — perffaith ar gyfer rhywbeth melys i fynd!
|
Signore Slush
|
Diodydd iâ, candi fflos, popgorn a hufen iâ. Gwych ar gyfer byrbrydau!
|
Signore Twister
|
Mynnwch flasu'r troellwr tatws a'r troellwyr wedi'u llwytho enwog yma!
|
Spudtastic
|
Mwynhewch datws wedi'u pobi'n berffaith gyda dewis o lenwadau poeth ac oer, gan gynnwys cyri cyw iâr, porc BBQ myglyd wedi'i dynnu, a chili con carne, i gyd wedi'u gweini ochr yn ochr â diodydd oer i dorri syched.
|
Spuds on the run
|
Profwch datws wedi'u pobi, brechdanau Sando blasus, adenydd cyw iâr crensiog, sglodion budr moethus, a detholiad o ddiodydd poeth ac oer i dorri syched.
|
That Doughnut Place
|
Toesenni blasus cartref wedi'u codi â burum, wedi'u paratoi bob dydd gan ddefnyddio'r cynhwysion mwyaf ffres, wedi'u torri, eu coginio a'u haddurno â llaw.
|
Top Dogs
|
Mwynhewch fyrgyrs, hotdogs a nachos wedi'u llwytho'n llawn.
|
Usk Valley Cheese Company
|
Cynhyrchydd caws crefftus sydd wedi ennill gwobrau sydd â'i wreiddiau yn nhreftadaeth ddiwylliannol a naturiol gyfoethog Dyffryn Wysg. Yma fe welwch gawsiau lled-galed, jamiau sawrus a siytni sy'n dathlu hanes, blasau a thraddodiadau lleol.
|
Van Goffi Ltd
|
Dewch i brynu eich cappuccino, flat white, smwthis ffrwythau a rhagor! Mae nifer o ddanteithion melys hefyd ar gael yma gan gynnwys teisen frau a brownis!
|
The Welsh Italian Pizza Co.
|
Pitsas wedi'u coginio mewn ffwrn goed gyda thopins i swyno'ch blasbwyntiau!
|