Skip to main content

Ailddatblygu Canolfan Cwm Taf - Cwestiynau Cyffredin

 

Cwestiwn - Pam mae'r safle'n cael ei ailddatblygu er mwyn creu swyddfeydd yn lle ardal siopa?

Ateb - Mae nifer o gynigion blaenorol gan y sector preifat i ailddatblygu'r safle ar gyfer ardal siopa wedi methu. Bydd cynllun i greu swyddfeydd yn gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n dod i ganol y dref, yn creu swyddi er lles trigolion Rhondda Cynon Taf ac, oherwydd bydd rhagor o bobl yng nghanol y dref, bydd e'n golygu bod Pontypridd yn lle mwy deniadol i fanwerthwyr sy'n ystyried agor siopau newydd. Roedd y Cyngor wedi dilyn cyngor gan arbenigwyr ar adeiladau masnachol wrth ddatblygu ei gynigion. Roedden nhw wedi nodi byddai cynllun i greu ardal siopa ddim yn talu ei ffordd a bydd dim modd ei gyflawni yn y sefyllfa bresennol.

Cwestiwn - Pam fydd Trafnidiaeth Cymru yn cael ei lleoli ym Mhontypridd a sut bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol?

Ateb - Mae Pontypridd yn ganolog i Ranbarth Prifddinas Caerdydd yn ehangach ac mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i leoli pencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru yn safle ailddatblygu Canolfan Cwm Taf yn adlewyrchu pwysigrwydd strategol Pontypridd. Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn dod â swyddi a chyfleoedd newydd i drigolion Rhondda Cynon Taf.

Cwestiwn - Sut mae'r prosiect yn cael ei ariannu?

Ateb - Bydd y prosiect yn cael ei ariannu trwy raglen Buddsoddi Cyfalaf y Cyngor - BuddsoddiadRhCT - gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a thrwy grantiau sy'n cefnogi buddsoddi cyfalaf.

Cwestiwn - Pam mae'r Cyngor yn adleoli'r Llyfrgell ac yn agor campfa newydd?

Ateb - Ar hyn o bryd does dim cyfleusterau campfa gyda'r Cyngor ym Mhontypridd a bydd y gampfa newydd yn llenwi'r bwlch yma yn y ddarpariaeth ac yn annog rhagor o ymwelwyr i ddod i ganol y dref. Bydd adleoli Llyfrgell Pontypridd yn caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaeth elwa ar y cyfleusterau modern, diweddaraf.

Cwestiwn - Beth yw Pwynt Cyswllt Cwsmer?

Ateb - Rhywle gall trigolion, defnyddwyr gwasanaeth ac ymwelwyr ddod i gael gwybodaeth am wasanaethau'r Cyngor a thrafod gyda'r Cyngor. Bydd gyda'r Pwynt Cyswllt Cwsmer y dechnoleg ddiweddaraf a fydd yn caniatáu i gwsmeriaid fanteisio ar yr ystod o wasanaethau mae'r Cyngor yn eu darparu ar-lein.

Cwestiwn - Fydd pont newydd i mewn i Barc Coffa Ynysangharad?

Ateb - Mae cynigion i adeiladu pont a fyddai'n cysylltu safle ailddatblygu Canolfan Cwm Taf gyda'r parc yn cael eu harchwilio yn rhan o'r prosiect.

Cwestiwn - Beth arall sy'n cael ei wneud i adfywio Pontypridd?

Ateb - Mae Pontypridd wedi elwa yn sgil buddsoddiad mawr o dros £10miliwn yn y blynyddoedd diwethaf i wella cyflwr ei strydoedd. Mae Ardal Gwella Busnes newydd wedi cael ei sefydlu sy'n helpu busnesau ym Mhontypridd i weithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i welliannau pellach a'u hariannu nhw. Mae Gorsaf Drenau Pontypridd wedi cael ei gwella yn ddiweddar ac mae gwaith yn digwydd i adfywio hen adeilad YMCA.