Skip to main content

Cwrt Yr Osaf

 
Cafodd y llety modern yma yn ardal Graig ei agor yn 2021 ar hen safle Llys Ynadon Pontypridd, ac mae wedi darparu 60 o welyau gofal ychwanegol newydd gyda Linc Cymru, cyfleusterau modern a chanolfan oriau dydd sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor. Mae'r safle yn parhau i fod yn boblogaidd gyda phreswylwyr a'r gymuned ehangach.

Cwrt Yr Orsaf WelcomeCafodd y datblygiad cyffrous oddi ar Stryd yr Undeb ei ddarparu mewn partneriaeth â Linc Cymru. Dyma oedd trydydd cyfleuster gofal ychwanegol y Fwrdeistref Sirol ar y pryd (yn dilyn Tŷ Heulog yn Nhonysguboriau a Maes-y-ffynnon yn Aberaman). Mae’n golygu bod safle gwag yr hen Lys Ynadon yn cael ei ddefnyddio eto.

Mae'r 60 o fflatiau newydd yn cynnwys 56 fflat ag un ystafell wely, a 4 fflat â dwy ystafell wely, gyda'r datblygiad ehangach yn cynnwys ystafell fwyta a lolfa, cegin a rennir, salon trin gwallt, maes parcio â lle i 31 car, gerddi wedi'u tirlunio i bawb eu defnyddio, ac uned gofal oriau dydd. Cafodd mynedfa'r safle ei lledu yn rhan o'r gwaith adeiladu.

Cwblhau gwaith adeiladu cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd Pontypridd (Hydref 2021)

Yn yr un modd â phob cynllun gofal ychwanegol, mae cymorth ar y safle ar gael 24/7 i'r preswylwyr ar gyfer eu hanghenion sydd wedi'u hasesu, gan eu galluogi nhw i fyw yn annibynnol am gyhyd â phosibl.

Cafodd Cwrt yr Orsaf ei ddarparu ddiwedd 2021, er gwaethaf heriau sylweddol y pandemig. Roedd y cynllun wedi elwa ar gyllid pwysig gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru er mwyn ei ddarparu.

Cwrt yr Orsaf building view
Cwrt yr Orsaf hallway
Cwrt yr Orsaf Lounge
Cwrt yr Orsaf Salon
Cwrt yr Orsaf Cinema Room
Cwrt yr Orsaf dining hall