Cafodd y cynllun yma yng Nghwm Cynon ei ddarparu ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Maes-y-ffynnon yn 2020. Roedd hyn wedi creu cyfanswm o 40 fflat gofal ychwanegol o'r radd flaenaf ar gyfer preswylwyr, yn ogystal ag ystod o gyfleusterau - ac mae'n parhau i fod yn boblogaidd yn y gymuned.
Cafodd y datblygiad ar Stryd y Clwb ei ddarparu mewn partneriaeth â Linc Cymru. Dyma oedd ail gyfleuster gofal ychwanegol y Fwrdeistref Sirol ar y pryd (yn dilyn Tŷ Heulog yn Nhonysguboriau). Cafodd ei adeiladu ar safle hen gartref gofal preswyl, gan sicrhau bod y lleoliad yn cael ei gadw ar gyfer llety gofal.
Yn yr un modd â phob cynllun gofal ychwanegol, mae cymorth ar y safle ar gael 24/7 i'r preswylwyr ar gyfer eu hanghenion sydd wedi'u hasesu, gan eu galluogi nhw i fyw yn annibynnol am gyhyd â phosibl.
Mae'r adeilad tri llawr yn cynnwys ystafell fwyta, caffi, salon trin gwallt, ystafell therapi, lolfa, ystafell golchi dillad ac ystafell weithgareddau. Mae yna hefyd faes parcio a gardd - i'w cynnal ar y cyd ag Ysgol Gynradd Blaengwawr.
Cafodd y datblygiad ei adeiladu gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern. Mae'r adeilad newydd wedi'i ffurfio trwy ddefnyddio tua 100 o fodiwlau a gafodd eu hadeiladu ymlaen llaw oddi ar y safle a'u cludo i Aberaman er mwyn adeiladu'r adeilad newydd.
Agorodd y cyfleuster gofal ychwanegol newydd ar ddechrau'r pandemig, a chafodd ei ddefnyddio yn rhan o ymateb brys y Cyngor yn y lle cyntaf.