Bydd y buddsoddiad arfaethedig ar gyfer yr ysgol yn y Beddau yn darparu cyfleusterau gwell i'r chweched dosbarth a chyfleusterau chwaraeon gwell, yn ogystal â chyfleusterau ehangach sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif erbyn 2023. Mae'r buddsoddiad arfaethedig yn rhan o fuddsoddiad gwerth £75.6 miliwn ar draws ardal ehangach Pontypridd.