Nod Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain ganrif Llywodraeth Cymru yw trawsnewid profiad dysgu disgyblion, gan sicrhau y cân nhw eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth â'r dechnoleg a'r cyfleusterau y mae eu hangen i gyflwyno cwricwlwm sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae'r prosiectau yma wedi cael arian gan gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif, Llywodraeth Cymru.
Mae buddsoddiad o £1.9 miliwn wedi cyfrannu at welliannau mewnol ac allanol i adran iau yr ysgol, gan gynnwys gwaith ailfodelu ac adnewyddu sylweddol i ddarparu gwelliannau i'r adeiladau o Oes Fictoria a'r 1960au, wrth i'r Ardal Gemau Aml-ddefnydd gael ei diweddaru. Er bod y prif waith wedi'i gwblhau yn 2018/19, mae'r cynllun yn dal i fynd rhagddo – mae gwaith dymchwel bloc y ffreutur presennol i'w gwblhau.
O ganlyniad i'r twf o ran addysg cyfrwng Cymraeg yn lleol, bydd estyniad pedair ystafell ddosbarth a lleoliad gofal plant pwrpasol yn cael eu hadeiladu ar yr ysgol yma yng Nghwmdâr. Bydd hyn yn caniatáu i ragor o blant fynd i YGG Aberdâr a bodloni'r galw am leoedd cyfrwng Cymraeg. Rydyn ni'n rhagweld y caiff y prosiect ei gwblhau yn 2022.
Bydd yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-waun yn elwa ar floc addysgu ychwanegol ar safle'r ysgol er mwyn bod yn addas ar gyfer y twf yn nifer y disgyblion yn yr ysgol. Bydd yr ystafelloedd dosbarth dros dro yn cael eu tynnu o'r safle. Bydd neuadd chwaraeon newydd hefyd yn cael ei hadeiladu, yn ogystal â chyfleusterau cymunedol ychwanegol. Rydyn ni'n rhagweld y caiff y prosiect ei gwblhau yn 2022.