Browser does not support script.
Agorodd yr ysgol gynradd newydd i blant 3-11 oed yng Nghwmaman ym mis Medi 2018 gan groesawu disgyblion hen Ysgol Babanod Cwmaman ac Ysgol Iau Glynhafod.
Mae safle'r ysgol newydd ar Ffordd Glanaman yn cynnwys ysgol newydd sbon, maes parcio i staff, ardal gollwng/casglu ar gyfer rhieni a disgyblion, dwy Ardal Chwarae Aml-ddefnydd newydd, caeau chwarae ac ystafell gymunedol.
Yn ogystal â hyn, cafodd gwaith symud ac ailfodelu'r ardal chwarae ei gwblhau. Mae'r ardal yn cael ei defnyddio'n aml gan y gymuned leol.
Argraff artist