Bydd y chweched dosbarth yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog, Ysgol Sirol Gymuned y Porth a Choleg Cymunedol Tonypandy yn cau, a bydd y disgyblion yn trosglwyddo i ddau chweched dosbarth, sy'n fwy o faint ac yn fwy cynaliadwy, yn Ysgol Gyfun Treorci ac Ysgol Gyfun Tonyrefail (bydd yr ysgol hon yn ysgol 3–19 oed).
Mae disgwyl i'r ddau chweched dosbarth hyn, sy'n fwy o faint ac yn fwy cynaliadwy, agor erbyn 2018. Byddan nhw'n gwella ansawdd y ddarpariaeth a deilliannau addysgol y disgyblion.