Skip to main content

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn

 

Yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19, ymestynodd YGG Llwyncelyn i adeilad Ysgol Babanod Llwyncelyn gerllaw, a oedd yn wag yn sgil y disgyblion yn symud i Ysgol Gymuned y Porth. O ganlyniad i hyn, mae lleoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn yr ysgol.

Cafodd ystafelloedd dosbarth adeilad presennol YGG Llwyncelyn eu hadnewyddu, gan ddarparu cyfleusterau'r 21ain Ganrif, gan gynnwys sgriniau CTouch, dodrefn a goleuadau newydd. Mae Cylch Meithrin y Porth yn defnyddio un ystafell ddosbarth, i ddarparu addysg y blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ar y safle.

 Yn y cyfamser, cafodd toiledau i ddisgyblion Ysgol Babanod Llwyncelyn eu gwella, ynghyd â pheth lleoedd parcio oddi ar y ffordd. Mae'r newid yn galluogi disgyblion YGG Llwyncelyn i gael mynediad at ardaloedd chwarae ychwanegol yn ogystal.

Lluniau o'r Prosiect – Medi 2018

YGG Llwyncelyn Upgrade 2018 - Classrooms and toilets-19
YGG Llwyncelyn Upgrade 2018 - Classrooms and toilets-10
YGG Llwyncelyn Upgrade 2018 - Classrooms and toilets-9
YGG Llwyncelyn Upgrade 2018 - Classrooms and toilets-13
YGG Llwyncelyn Upgrade 2018 - Classrooms and toilets-3
YGG Llwyncelyn Upgrade 2018 - Classrooms and toilets-7