Bydd gwirfoddolwyr Chwaraeon RhCT yn ein helpu i gefnogi a darparu sesiynau chwaraeon ar draws Rhondda Cynon Taf. Croesawn bobl sy wrthi'n gwirfoddoli yn ogystal â'r rheiny sy eisiau dechrau gwirfoddoli am y tro cyntaf. Does dim ots ble rydych chi'n byw neu pa brofiad sy gyda chi, gallwn ni eich helpu chi i chwarae rhan.
Oes diddordeb gyda chi? Dyma ragor o wybodaeth...
Pam cofrestru gyda ni?
- Bydd Chwaraeon RhCT yn eich cefnogi chi i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli newydd; naill ai drwy wirfoddoli ar raglenni Chwaraeon RhCT neu wirfoddoli gyda'n partneriaid. Pe hoffech chi wirfoddoli mewn lleoliad penodol, gyda grŵp penodol neu mewn maes chwaraeon penodol - byddwn ni'n dod o hyd i'ch lleoliad perffaith!
- Mae gwirfoddolwyr yn ennill sgiliau bywyd defnyddiol fel sgiliau trefnu, cyfathrebu,
- Cryfhau eich CV
- Rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned - chwaraewch ran gan wneud Rhondda Cynon Taf yr awdurdod lleol mwyaf heini yng Nghymru!
- Byddwch yn rhan o'ch cymuned - cwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd. Ydych chi'n newydd i'r ardal? Dyma'r cyfle perffaith i chi!
- Rhowch gynnig arni!
Edrychwch ar y daflen yma sy’n dangos 20 rheswm dros gwirfoddoli.
Pa fath o waith gwirfoddoli byddwn i'n ei wneud?
Bydd hyn yn dibynnu arnoch chi... dyma ambell enghraifft o'r hyn cewch chi fod yn rhan ohono:
- Cefnogi rhaglenni Chwaraeon RhCT fel darpariaeth gwyliau
- Gwirfoddoli mewn clwb chwaraeon lleol - mae modd gwirfoddoli mewn rolau amrywiol e.e. hyfforddi, marchnata, gwaith gweinyddu
- Arwain clwb ar ôl ysgol
Beth nesaf?