Mae ein Cronfa Ysgolion wedi'i chreu i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd i ddatblygu darpariaeth chwaraeon a gweithgareddau corfforol allgyrsiol yn eu hysgolion. Mae modd i ysgolion cynradd wneud cais am hyd at £250 ymhob blwyddyn academaidd, ac mae modd i ysgolion uwchradd wneud cais am hyd at £500.
Rydyn ni'n deall mai dyma gyfnod heriol ac anodd i ysgolion. Hoffen ni barhau i'ch cefnogi er mwyn sicrhau bod eich disgyblion yn cadw'n heini. Er mai ein dewis yw datblygu cynlluniau chwaraeon a gweithgarwch corfforol newydd mewn ysgolion, byddwn ni'n ystyried ceisiadau lle mae angen cyllid i wneud darpariaeth allgyrsiol bresennol yn ddiogel a sicrhau ei bod yn glynu wrth ganllawiau presennol o ran Covid-19.
Ar ôl cynnal y cynllun, bydd gofyn i ysgolion gyflwyno ffurflen 'Cwblhau Cynllun', yn ogystal â gwaith papur arall. Cofiwch ystyried cynaliadwyedd prosiectau a phwysigrwydd gallu parhau ar ôl i'r cyllid gael ei wario.
Dyddiadau Cronfa Ysgolion 2020-21
Cyfnod cyflwyno cais yn dechrau: 5 Hydref 2020
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 25 Hydref 2020
I lawrlwytho telerau ac amodau, cliciwch yma.
Sut i wneud cais
Lawrlwythwch y ffurflen gais yma a'i dychwelyd wedi'i llenwi i Chwaraeon RhCT drwy e-bost Chwaraeonrhct@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu drwy'r post i Chwaraeon RhCT, Canolfan Chwaraeon Abercynon, Parc Abercynon, Abercynon, CF45 4UY
Astudiaethau Achos
Dyma rai esiamplau o brosiectau rydyn ni wedi’u cefnogi yn 2018-19


