Cawson ni wybod yn ddiweddar fod cyfleoedd am gyllid y mae’n bosibl bod modd i'ch ysgol chi fanteisio arnyn nhw.
Local Giving - Magic Little Grants
Nodwch fod ysgolion yn gymwys i gyflwyno cais os ydyn nhw'n elusen gofrestredig.
Manylion cyffredinol: Mae Local Giving wedi agor eu cylch cyllid "Magic Little Grants" unwaith yn rhagor ar gyfer 2023. Cafodd mwy na 2,600 o grantiau eu dyrannu y llynedd, a dyma un o'r ffurflenni cais ysgrifenedig hawsaf y byddwch chi’n dod ar ei thraws!
Pwy sy'n gallu cyflwyno cais: Sefydliadau yn eu blwyddyn gyntaf, neu gydag incwm sy’n llai na £250,000.
Themâu/nodau'r cyllid: Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn o dan un o saith thema, gan gynnwys annog pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff; atal neu leihau effaith tlodi; helpu grwpiau ar y cyrion a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
Dyddiad cau: 31 Hydref 2023.
Dolen i’r ffurflen gais
The Clothworkers Foundation
Manylion cyffredinol: The Clothworkers Foundation yw cangen elusennol y Clothworkers Company, sydd wedi rhoi grantiau i brosiectau cyfalaf ers 1977.
Pwy sy'n gallu cyflwyno cais: Elusennau cofrestredig, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, Sefydliadau Corfforedig Elusennol ac Ysgolion Arbennig.
Themâu/nodau'r cyllid: Bydd y sefydliad yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer adeiladau; gosodiadau, ffitiadau ac offer; a cherbydau (ac eithrio rhentu ar brydles).
Faint o gyllid ar gyfer pob prosiect: Mae grantiau bach a mawr ar gael. Ymddiriedolwyr sy’n gwneud y penderfyniad terfynol o ran faint o arian i’w ddyfarnu.
Dyddiad cau: Does dim dyddiad cau ar gyfer y cyllid yma.
Dolen i’r ffurflen gais
Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru
Manylion cyffredinol: Lansiodd Dŵr Cymru Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn 2017. Ers lansio'r gronfa, mae wedi rhoi dros £500,000 i gefnogi cannoedd o fentrau cymunedol lleol.
Pwy sy'n gallu cyflwyno cais: Ysgolion, ymddiriedolaethau elusennol, cymdeithasau tai a chymdeithasau cyfeillgar.
Mathau o brosiectau allai dderbyn cyllid: Gwelliannau i'r amgylchedd neu fentrau cymunedol lleol sy’n hybu amcanion iechyd, lles ac amgylcheddol. Gweithgareddau sy'n cael eu cynnal gan grwpiau cymunedol cofrestredig – ag amcanion iechyd, lles, cymorth costau byw ac amgylcheddol yn benodol. Gwella a chefnogi gweithgareddau addysg lleol, er enghraifft buddion effeithlonrwydd dŵr, materion amgylcheddol ac arloesi.
Faint o gyllid ar gyfer pob prosiect: £5,000
Dyddiad cau: Ar agor am ddau gyfnod arall o 8 wythnos.
- 1 Medi 2023 – 31 Hydref 2023
- 1 Ionawr 2024 – 29 Chwefror 2024
Dolen i'r ffurflen gais