Nod y rhaglen Llysgenhadon Ifanc yw grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn arweinwyr drwy chwaraeon, gan eu helpu i annog eu cyfoedion segur i wirioni ar chwaraeon.
Mae disgwyl i bob Llysgennad Ifanc gynrychioli llais pobl ifanc i drafod Addysg Gorfforol a Chwaraeon yn ei ysgol a'i gymuned. Bydd disgwyl i'r llysgennad fod yn bencampwr chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ei ysgol, gan hyrwyddo gwerth cadarnhaol chwaraeon.
Hoffai Chwaraeon RhCT weithio gyda'n Llysgenhadon Ifanc i gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl allu cymryd rhan yn eu hysgolion a'u cymunedau, gan geisio cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes. Rydyn ni'n cefnogi hyn drwy gynnig hyfforddiant arweinyddiaeth i'n Llysgenhadon Ifanc, ynghyd â chyfleoedd i rwydweithio gyda llysgenhadon o ysgolion eraill ac adnoddau drwy ein cyfleoedd cyllido amrywiol.
Llysgenhadon Ifanc Efydd (Blwyddyn 5 a 6)
Beth ydyn nhw'n ei wneud?
- Cyflwyno canlyniadau'r Llysgenhadon Ifanc yn eu hysgolion cynradd
- Gweithio gyda'r athrawon i drefnu digwyddiadau ar gyfer yr ysgol
- Arwain a threfnu gweithgareddau ar y buarth chwarae ar gyfer Blynyddoedd 1–6
- Dod yn ohebwyr ‘chwaraeon ysgol’ gan dynnu sylw at y gwaith da maen nhw'n ei wneud
- Hybu chwaraeon yn yr ysgol drwy gylchlythyrau a ffilmiau
- Cefnogi arweinwyr hŷn i gyflwyno sesiynau mewn ysgolion a chymunedau
ENWEBWCH NHW!
Llysgenhadon Ifanc Arian (Blwyddyn 9+)
Beth ydyn nhw'n ei wneud?
- Cyflwyno canlyniadau'r Llysgenhadon Ifanc yn eu hysgolion uwchradd
- Arwain a threfnu cyfleoedd chwaraeon allgyrsiol
- Cefnogi digwyddiadau lleol a chlybiau cymunedol
- Dod yn ohebwyr ‘chwaraeon ysgol’ gan dynnu sylw at y gwaith da maen nhw'n ei wneud
- Hybu chwaraeon yn yr ysgol ac yn y gymuned drwy gyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau, ffilmiau ac ati
YMGEISIWCH NAWR
Llysgenhadon Ifanc Aur (Blwyddyn 10+)
Beth ydyn nhw'n ei wneud?
- Cyflwyno canlyniadau'r Llysgenhadon Ifanc ar draws yr Awdurdod Lleol
- Gweithio gyda Thimau Datblygu Chwaraeon Awdurdodau Lleol i drefnu a hybu Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol ar draws yr Awdurdod Lleol
- Trefnu a chyflwyno hyfforddiant i Lysgenhadon Ifanc Arian ac Efydd
- Cefnogi digwyddiadau ledled yr Awdurdod Lleol – cyfarfod a chyfarch pobl bwysig, siarad cyhoeddus
- Cefnogi a mentora Llysgenhadon Ifanc iau i fod y gorau y gallan nhw fod
- Cyflwyno canlyniadau'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol i gynulleidfaoedd amrywiol
YMGEISIWCH NAWR