Skip to main content
Toggle navigation
Trigolion
Busnesau
Y Cyngor
Ymwelwyr
Achlysuron
Dod yn rhan o bethau
Newyddion
English
Toggle navigation
Dewislen
Hafan
CHWARAEON CYMUNEDOL
Chwaraewch Ran
Ysgol
Cadw'n fywiog
Beth sydd yn fy ardal i
Amdanon ni
Hafan
>
CHWARAEON CYMUNEDOL
>
Club Resources
>
Recriwtio Gwirfoddolwyr
Recriwtio Gwirfoddolwyr
Paratoi ymlaen llaw...
Beth ydych chi angen ei roi ar waith cyn recriwtio?
Sut y byddwch chi'n gofyn am gymorth?
Sut y mae modd i chi gefnogi gwirfoddolwyr newydd?
Ystryriwch y canlynol
Disgrifiadau swyddi clir, gan gynnwys pa sgiliau sy'n hanfodol a faint o amser y bydd angen iddyn nhw ei ymrwymo i'r rôl.
Ffyrdd newydd i hyrwyddo eich rolau gwirfoddoli a phroses recriwtio groesawgar.
Y ffyrdd y byddwch chi'n gwneud i'ch gwirfoddolwr newydd deimlo fel bod y person yn cael ei gefnogi ac yn rhan o'r clwb.
Awgrymiadau
GOFYN am help! Gan amlaf, mae pobl yn barod i helpu - dim ond gofyn sydd rhaid ei wneud! Creu hysbyseb ar-lein a'i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Meddwl am ffyrdd creadigol i ofyn i aelodau presennol ac aelodau teulu trwy grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol. Trefnu noson clwb neu bostio hysbysebion yn yr ardal leol.
Archwiliwch rwydwaith eich clwb! Pa sgiliau a/neu swyddi sydd gyda'ch aelodau a'u teuluoedd? A oes unrhyw gyn-aelodau clwb neu aelodau o’r gymuned leol sydd â’r sgiliau neu’r profiad perthnasol i gefnogi eich clwb?
Rhannwch y buddion o wirfoddoli gyda'ch clwb chi! A fydd eich clwb yn darparu cit, mynediad at gyrsiau a /neu wahoddiadau i achlysuron clwb/cymdeithasol fel gwobr? Bydd y rhain i gyd yn gwneud i wirfoddolwr newydd deimlo'n rhan o'ch clwb. Gwnewch yn siwr eu bod nhw'n deall sut y bydd eu cefnogaeth nhw yn fanteisiol i'ch clwb, eich aelodau a'r gymuned yn ehangach.
Sicrhau bod gwirfoddolwyr newydd yn...
Cael sesiwn croeso/sefydlu
Deall eu rôl a'u cyfrifoldebau
Teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi
Deall gwerthoedd, polisïau a gweithdrefnau'r clwb
Gwybod at bwy i droi am gymorth
Teimlo'n rhan o'r clwb a bod gyda nhw'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i gyflawni'r rôl (gan gynnwys cit, hyfforddiant neu adnoddau)
Cadw Gwirfoddolwyr
Dylid:
Gwerthfawrogi pob gwirfoddolwr! Mae 'diolch' yn mynd yn bell. Diolchwch iddyn nhw yn bersonol, neu'n gyhoeddus drwy'r cyfryngau cymdeithasol neu yn ystod cyfarfod/achlysur clwb er mwyn ei wneud yn hyd yn oed yn fwy arbennig.
Enghraifft:
RCT Performance Swim Squad
.
Datblygu pob gwirfoddolwr! Anogwch wirfoddolwyr i ddatblygu a dysgu gan ei gilydd. Darparwch gyfleoedd hyfforddi os oes angen.
Cefnogi pob gwirfoddolwr! Cadwch mewn cysylltiad a chynnig cymorth hyd yn oed os nad yw’r gwirfoddolwr wedi gofyn eto.
Sut rydyn ni'n gallu helpu?
Recriwtio gwirfoddolwyr: Mae modd i ni hyrwyddo eich cyfleoedd gwirfoddoli ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ein gwefan ac ap, yn ogystal â'n rhwydwaith. Mae modd i ni eich helpu chi i greu
hysbysebion
a darparu enghreifftiau neu dempledi i chi recriwtio'n fewnol o fewn eich clwb.
Cefnogi gwirfoddolwyr: Mae modd i ni eich helpu chi i wneud cais am gyllid er mwyn talu am gostau cyrsiau/hyfforddiant. Mae modd i ni hefyd ddarparu adnoddau a thempledi a fydd yn eu cefnogi nhw yn eu rôl.
Cydnabod a Gwobrwyo eich Gwirfoddolwyr: Rydyn ni'n cydnabod ac yn gwobrwyo gwirfoddolwr yn y gymuned trwy ein cystadleuaeth '
Gwirfoddolwr y Mis
'. Mae modd i ni hefyd ddarparu templedi 'diolch' y mae modd i chi eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Sport RCT Accreditation Resource RECRUITING VOLUNTEERS [WLSH]
1.71 Mb
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.