Beth yw Cynllun Achredu Clybiau Chwaraeon RhCT?
Mae Cynllun Achredu Clybiau Chwaraeon RhCT yn golygu bod modd inni gefnogi clybiau a sefydliadau i gryfhau a chynnig mwy o gyfleoedd yn ogystal â helpu cymunedau i gydnabod pa glybiau sy'n cynnig yr amgylchedd a phrofiadau chwaraeon ac ymarfer corff gorau ledled Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n gweithio gyda chlybiau sydd wedi'u hachredu er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau ac yn darparu amgylchedd diogel a hwyl ar gyfer eu haelodau.
Am restr o glybiau chwaraeon sydd wedi'u hachredu, cliciwch yma.
Meini prawf er mwyn dod yn Glwb wedi'i Achredu
Er mwyn bod yn Glwb wedi'i Achredu, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol. Mae modd i'r Swyddog Chwaraeon yn y Gymuned roi cymorth i chi gyda chanllawiau a thempledi os ydych chi'n ansicr am rai pethau neu os ydych chi wedi colli dogfennau. Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, e-bostiwch ChwaraeonRhCT@rctcbc.gov.uk.
- Cyfansoddiad y Clwb - mae'r ddogfen lywodraethu yma yn bwysig i amlinellu sut mae eich clwb yn cael ei gynnal, gan gynnwys ei strwythur, ei ddiben a'i aelodaeth. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
-
Strwythur a Phwyllgor y Clwb - mae bod â phwyllgor cryf yn bwysig i sicrhau bod eich clwb yn cael ei gynnal yn effeithlon. Rhannwch y prif gyfrifoldebau a recriwtio pwyllgor amrywiol ac ymroddedig i sicrhau bod un neu ddau o unigolion ddim yn ymgymryd â'r holl gyfrifoldebau. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
-
Cyfrif Banc ar gyfer y Clwb - mae'n bwysig eich bod chi'n agor a gweithredu cyfrif banc y clwb a ddim yn defnyddio cyfrif banc personol aelod o'r clwb. Bydd hyn yn effeithio ar eich cymhwysedd i dderbyn cyllid a grantiau, yn ogystal â'i wneud yn anoddach i'ch trysorydd sy'n rheoli eich arian. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
-
Polisi Diogelu a Swyddog Diogelu Plant - mae hyn yn bwysig er mwyn diogelu eich clwb a'i hyfforddwyr/gweithlu, yn ogystal â lles unrhyw blentyn, person ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed sy'n cymryd rhan yng ngweithgareddau eich clwb. Mae cyrsiau diogelu ar gael trwy eich Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
-
Ymgysylltu â Chorff Llywodraethu Cenedlaethol ac Yswiriant Priodol - mae hyn yn ofynnol i bob corff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol i sicrhau bod modd i'ch clwb hyfforddi a chystadlu, yn ogystal ag er mwyn dilyn eu canllawiau a gofynion penodol. Cysylltwch â'ch Corff Llywodraethu Cenedlaethol am arweiniad.
-
Hyfforddwyr Cymwys - bydd eich Corff Llywodraethu Cenedlaethol yn darparu ystod o gymwyseddau i sicrhau bod modd i'ch hyfforddwyr ddarparu sesiynau diogel o'r ansawdd uchaf i'ch aelodau, gan amrywio o 'arweinwyr' i gyrsiau uwch lefel 3. Mae'r cymwyseddau yma'n cwmpasu eich gwirfoddolwyr ac yn sicrhau bod eich clwb yn cael ei weithredu’n unol â chanllawiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Cysylltwch â'ch Corff Llywodraethu Cenedlaethol am arweiniad.
-
Hyfforddwyr â chymhwyster Cymorth Cyntaf ac wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) - unwaith yn rhagor, bydd sicrhau bod eich hyfforddwyr â chymhwyster cymorth cyntaf yn sicrhau bod eich aelodau a'ch gwirfoddolwyr yn ddiogel mewn sesiynau. Dylai unrhyw hyfforddwyr sy'n gweithio â phlant, pobl ifainc neu oedolion sy'n agored i niwed gwblhau gwiriad DBS yn rhan o bolisi/proses diogelu'r clwb. Cysylltwch â'ch Corff Llywodraethu Cenedlaethol am arweiniad.
Mae modd i'n swyddogion roi cymorth i chi os ydych chi'n ansicr am rai pethau neu os ydych chi wedi colli dogfennau.
Pam ddylech chi gofrestru?
Yn ogystal â chael eich cydnabod yn Glwb wedi'i Achredu gan Chwaraeon RhCT byddwch yn derbyn cymorth ac arweiniad gan ein swyddogion, gan gynnwys:
- Cymorth o ran cynyddu aelodaeth y clwb
- Cymorth o ran grantiau a chyllid
- Cymorth o ran datblygu’r clwb a threfniadau llywodraethu
- Cymorth gyda recriwtio gwirfoddolwyr ac addysgu hyfforddwyr
- Cymorth o ran datblygu cysylltiadau â chlybiau ysgol
- Cymorth gyda deunyddiau marchnata a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys cyfleoedd gymryd rhan mewn raffl a dathlu llwyddiant clybiau yn rhan o astudiaethau achos)
Am ragor o wybodaeth a dogfennau defnyddiol, cliciwch yma.
YMAELODI Â CHYNLLUN AELODAETH AR GYFER CLYBIAU
Ydych chi eisoes yn aelod?
Ffurflen Gais am Gymorth i'r Clwb
Adroddiad Cynnydd y Clwb