Ewch am dro drwy'r parc gwledig ar eich liwt eich hun neu dilynwch un o'n tair taith gerdded wedi'u harwyddo.
Maen nhw'n amrywio o ran pellter a pha mor heriol ydyn nhw, ond mae pob un yn cynnig llwybr wedi'i arwyddo trwy olygfeydd syfrdanol.
Ewch heibio'r llynnoedd a chadwch olwg am fywyd gwyllt lleol ar lwybrau hygyrch i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.
Fel arall, ewch ar daith siâp pedol i ben y Cwm, lle mae hebogiaid tramor yn esgyn yn uchel ac mae Cwm Cynon a Bannau Brycheiniog yn ymestyn allan o'ch blaen.
Mae modd i chi gasglu'r daflen llwybrau cerdded o'r Ganolfan Ymwelwyr neu ei lawrlwytho yma:
- Llwybr y Bwllfa - llwybr 2 filltir (3.5 cilomedr) ar lwybrau wyneb gwastad sy'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio/cadeiriau olwyn.
- Mae Llwybr Cae Mawr yn mynd â chi oddi ar lwybrau arferol y parc i fyny'r rhiw a thros gamfeydd am 2.5 milltir (4 cilomedr).
- Mae Llwybr Penrhiwllech yn dilyn llwybr 4 milltir (6 cilomedr) siâp pedol allan o'r dyffryn o amgylch Tarren Y Bwllfa ac yn uchel i fyny i lwyfandir yr ucheldir.
Teithiwch ychydig ymhellach i fwynhau rhaeadrau, copaon mynyddoedd - gan gynnwys “Mynydd y Bwrdd” De Cymru a rhai o’r golygfeydd gorau yng Nghymru.
Cael eich ysbrydoli yma