Bowlio
Mae Clwb Bowlio Aberdâr (a gafodd ei sefydlu ym 1969) wedi'i leoli ger y mynediad i'r parc ar Heol Glan. Mae'r tymor bowlio'n cychwyn ym mis Ebrill ac yn gorffen yng nghanol mis Medi.
Beth am eistedd a gwylio'r aelodau'n cystadlu yn erbyn clybiau lleol eraill gan fwynhau'r awyrgylch?
Neu beth am roi cynnig arni? Cysylltwch â'r clwb i ymuno â'r hwyl.