Ble hoffech chi aros dros nos yn Rhondda Cynon Taf? Ble bynnag y byddwch chi'n dewis aros, byddwch chi'n cael croeso cynnes y Cymoedd.
Yn y bore, agorwch y llenni yn eich ystafell wely a mwynhau golygfeydd syfrdanol ar fynyddoedd a cheffylau'n pori o fwthyn cefn gwlad neu dŷ llety. Mae amrywiaeth o lety ar gael mewn mannau sy'n berffaith ar gyfer cerdded, marchogaeth a chrwydro Bro'r Sgydau (rhaeadrau).
Dewiswch ymlacio yn ein hamrywiaeth o westai moethus. Mae dewis o blastai, gwestai boutique a gwestai gwledig!
Byddwch wrth galon y cyffro mewn gwesty neu lety gwely a brecwast yng nghanol un o'n trefi.
Beth am rywbeth ychydig yn wahanol? Dewch â’r carafán neu gartref ar olwynion i Barc Gwledig Cwm Dâr – sef un o Safleoedd Awyr Dywyll Cymru – sydd â safleoedd â thrydan ar gyfer carafanau, cartrefi ar olwynion a phebyll trelar, yn ogystal â llety modern ar y safle.
Ble hoffech chi aros?
Treuliwch noson mewn gwesty a mwynhau pryd o fwyd gyda'r hwyr a brecwast traddodiadol
Cewch chi groeso cynnes y Cymoedd mewn llety gwely a brecwast neu dŷ llety, ac maen nhw mewn lleoliad perffaith ar gyfer crwydro a mynd ar antur.
Mae amrywiaeth o dai, fflatiau a bythynnod ar gael sydd at eich dant.
Mwynhewch yr awyr agored a gwersylla o dan ganopi o sêr a chytserau yn rhai o safleoedd Awyr Dywyll cyntaf Cymru.
Cyfforddus, fforddiadwy a chyfeillgar. Chwiliwch am hostel yn Rhondda Cynon Taf.