Mae'r werddon dawel yma o fywyd gwyllt a golygfeydd godidog yn deillio o graith ddu'r pwll go.
Mae Parc Gwledig Cwm Clydach yn ardal o harddwch naturiol eithriadol sy'n cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded, yn ogystal â chyfle i weld gleision y dorlan, crehyrod,
pili-palod, madfallod dŵr a mwy.
Mae yna ddau lyn, sy'n dwyn yr enwau "llyn uchaf" a "llyn isaf" yn lleol, yn ogystal â rhaeadrau. Mwynhewch daith gerdded hamddenol o gwmpas y llynoedd a bwydo'r hwyaid cyn mwynhau diod neu bryd o fwyd yn y caffi. Neu ewch i archwilio'r cefn gwlad a'r mynyddoedd sydd o gwmpas y parc.