Parc Ffynnon Taf, Cardiff Road, Fynnon Taf, CF15 7PF
Dewch i fwynhau rhywbeth gwahanol ym Mharc Ffynnon Taf. Mae gan y parc le chwarae i blant, lawnt fowlio, cyrtiau tennis ac ardaloedd wedi'u tirlunio, yn ogystal â'r unig ffynnon dwym yng Nghymru!
Mae'r parc wrth droed Mynydd y Garth, sef y mynydd oedd yn ysbrydoliaeth ar gyfer y ffilm â Hugh Grant, sef ‘The Englishman who went up a hill but came down a mountain’.