Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Criced

 

Cafodd y cae criced ei agor yn swyddogol gan y Maer J. Griffiths Jones yn 1924.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei bennu'n gartref swyddogol i Glwb Criced Sirol Morgannwg. 

Chwaraeodd y tîm ei gêm gyntaf yn erbyn tîm Swydd Derby yn 1926. Daeth criced yn fwyfwy poblogaidd ar ôl hyn, ac ym 1929, cafodd gêm bwysig iawn ei chwarae yma yn erbyn tîm De Affrica. Wrth i ragor o gemau gael eu cynnal i'r gorllewin tuag at Sir Gâr ac i'r dwyrain tuag at Sir Fynwy, cwympodd nifer y gemau Sirol a fyddai'n cael eu chwarae ym Mhontypridd i un y flwyddyn. Mae nifer y gemau Sirol sy'n cael eu chwarae yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi cwympo.

Mae modd olrhain hanes criced ym Mhontypridd yn ôl i 1858, pan symudodd nifer fawr o bobl o gefndiroedd Seisnig ac addysgedig i'r ardal. Serch hynny, roedd hi'n anodd iddyn nhw ddatblygu'r gêm o ganlyniad i'w horiau gwaith hir a'r ffaith bod tir yn brin. Daeth pethau'n well pan gafodd clwb ffurfiol ei sefydlu ym 1870, ac roedd modd cynnal rhagor o gemau ar ôl i Gordon Lenox ganiatáu i'r chwaraewyr ddefnyddio rhywfaint o dir ar ei fferm ym 1873. Rhoddodd y dyngarwr hael yma arian i'r clwb criced brynu offer a chit. Yn ogystal â hynny, helpodd e i sicrhau bod wiced addas yn cael ei gosod ar un o gaeau fferm Ynysangharad. O ganlyniad i hyn, roedd modd i Glwb Criced Pontypridd ymuno â Chynghrair Griced Morgannwg, a chwarae gemau yn erbyn clybiau lleol fel Treherbert ac Aberpennar.

Yn fwy diweddar yn 2005, cafodd y blwch sgorau ei adnewyddu ac mae nifer o glybiau yn dal i ddefnyddio'r rhwydi ymarfer er mwyn paratoi at y tymor criced. Mae hyn, ynghyd â chyfleusterau o ansawdd da yn gwneud y lleoliad yn addas iawn ar gyfer ymarfer a pharatoi at y tymor criced.

Mae'r tir criced yn gartref i:

Ar hyn o bryd, mae 4 tîm cynghrair yn chwarae yma ar ddydd Sadwrn, ac mae'r tîm cyntaf yn chwarae yng Nghynghrair Griced Morgannwg a Sir Fynwy. Yn ogystal â hynny, mae gan y clwb dîm yn y cynghreiriau ar ddydd Sul ac ar ganol yr wythnos, yn ogystal ag adran iau.

Mae'r arwyneb chwarae o safon, ynghyd â'r cyfleusterau pafiliwn o'r radd flaenaf, yn golygu bod y parc yma yn safle criced amatur poblogaidd sy'n denu llawer o gemau pwysig.