Yn rhan o Lwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, mae'r daith hyfryd yma yn mynd o Gaerdydd, trwy galon Rhondda Cynon Taf ac yn gorffen ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
P'un a ydych chi eisiau taith epig yn cerdded pellter hir, tro ling-di-long neu daith feicio neu sgwter hamddenol ar hyd rhannau o'r llwybr, mae gan Daith Taf ddigonedd o filltiroedd i chi eu harchwilio. Mae digon o lefydd i stopio am fwyd, diod neu seibiant ac mae'r llwybr yn mynd heibio i Barc Coffa Ynysangharad (mae'n werth ymweld ag ef!).
Mae'r llwybr 55-milltir yn cyrraedd Rhondda Cynon Taf yn Ffynnon Taf, yn mynd trwy Drefforest a Phontypridd cyn ymadael â'r fwrdeistref sirol yn Abercynon.
Mae'r llwybr pwrpasol yn ddi-draffig ar y cyfan, ond mae tirwedd gymysg mewn mannau.