Mae Llwybr Cae Mawr yn mynd â chi oddi ar lwybrau arferol Parc Gwledig Cwm Dâr, ar hyd llwybrau cefn gwlad trwy ardaloedd coediog ac ar hyd ochr y cwm a safle hen lofa.
Cewch fentro i goetir hynafol, gwirioni ar fryniau Bannau Brycheiniog a golygfeydd dramatig o'r cwm rhewlifol, cyn myn yn ôl i waelod y cwm, heibio safleoedd hen byllau glo a llynnoedd i fwynhau yn yr awyr agored.
Mae'r daith 4km o hyd yn cychwyn ac yn gorffen yn y Ganolfan Ymwelwyr. Mae arwyddion coch ar golofnau â band coch yn dangos i chi'r ffordd i fynd. Ar ôl y daith, cewch chi fwynhau paned a chacen yn y caffi ar y safle, gêm o 'laser tag' yn Combat Zone Live neu farchogaeth yng nghanolfan marchogaeth Greenmeadow.
Mae'n bosibl bydd y llwybr yn wlyb ac yn anwastad mewn mannau, felly, bydd eisiau gwisgo esgidiau cerdded addas. Bydd gofyn i chi ddringo dros gamfeydd a gwneud eich ffordd ar hyd cymysgedd o lwybrau cefn gwlad a bryniau.