Sefydlwyd Cronfa Deddf Eglwysi Cymru o enillion ac asedau o ddatgysylltu'r Eglwys yng Nghymru. Gwasgarwyd yr asedau yn gyfartal ymhlith yr hen gynghorau sir yn Nghymru, ac yna ei rannu rhwng awdurdodau unedol Cymru ar ol eu ffurfio ym 1996. Mae Cronfa Deddf Eglwysi Cymru yn ymddiriedolaeth elusennol annibynnol.
Mae Cronfa Deddf Eglwysi Cymru ar gael i eglwysi, capeli, lleoedd addoliad cyhoeddus, grwpiau cymunedol ac elusennol sy'n gweithredu yn ardaloedd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr. Rhaid i sefydliadau ddarparu gweithgareddau tymor hir yn uniongyrchol a fydd o fudd i drigolion a chymunedau’r ardaloedd hyn, a rhaid bod y gweithgareddu ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae'n darparu cymorth ar gyfer gwariant cyfalaf fel:
- Adnewyddu adeiladau cymunedol neu leoedd o addoliad;
- Prynu cyfarpar cyfalaf;
- Dibenion eraill sy'n fuddiol i'r gymuned ehangach.
Categori
|
Gall y Gronfa Gyfrannu
|
Eich Cyfraniad
|
Safon - Bach
|
100% tuag at gost prosiect cymwys hyd at uchafswm grant o £2,000
|
0%
|
Safonol - Canolig
|
Hyd at 90% tuag at gost prosiect cymwys hyd at uchafswm grant o £10,000
|
Lleiafswm o 10%
|
Sylweddol - Mawr
|
Hyd at 80% tuag at gost prosiect cymwys hyd at uchafswm grant o £50,000
|
Lleiafswm o 20%
|
Rhaid i brosiect sylweddol alluogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau neu weithdareddau newydd/ estynedig ar gyfer y gymuned. Rhaid i’r prosiectau yma ychwanegu gwerth. Ni ellir cyfrannu grant sylweddol at barhad gweithgarwch presennol yn unig.
Mae'r Gronfa yn gweithredu ar sail rhaglen dreigl. Nid oes unrhyw gylchoedd ceisiadau penodol a gellir cyflwyno ceisiadau wedi'u datblygu'n llawn ar unrhyw adeg. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd pob cais yn llwyddiannus.
Uwchadran Adfywio a Chynllunio
Carfan Menter
Ty Sardis,
Heol Sardis,
Pontypridd,
CF37 1DU
Tel: 01443 281124