Pryd dylwn i roi gwybod am newid / amrywiad i fy Nhrwydded Tai Amlfeddiannaeth?
Rhaid i chi wneud cais am amrywiad i'ch trwydded Tai Amlfeddiannaeth mewn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol
- Mae'r perchennog neu reolwr cyfredol wedi newid ei enw
- Mae'r perchennog neu reolwr cyfredol wedi newid ei gyfeiriad
- Hoffech chi gynyddu uchafswm nifer y meddianwyr
- Mae yna newid sylweddol i ddyluniad neu ystafelloedd yr eiddo
- Mae yna newid i drefniadau rheoli
Oes modd trosglwyddo trwydded Tai Amlfeddiannaeth o un person i un arall?
Mae trwydded Tai Amlfeddiannaeth yn cael ei rhoi i un person penodol, felly does dim hawl ei throsglwyddo i unrhyw un arall. Mae angen trwydded newydd ym mhob achos. Mae modd i chi wneud cais newydd yma (NB: link will be made live once system is live)
Pwy ddylai roi gwybod am amrywiad i Drwydded Tai Amlfeddiannaeth?
Dim ond y deiliad trwydded cyfredol sydd â'r hawl i wneud amrywiad i'w Drwydded Tai Amlfeddiannaeth.
Beth fydd angen arna i cyn rhoi gwybod am amrywiad i fy Nhrwydded Tai Amlfeddiannaeth?
Casglwch y dystiolaeth ganlynol cyn rhoi gwybod am eich amrywiad.
- Rhaid i'r perchennog a'r rheolwr gytuno i'r amrywiad. Mae angen llythyr wedi'i lofnodi os nad yw'r ymgeisydd yn cyflawni rôl y perchennog a'r rheolwr.
- Bydd angen cynllun llawr diweddar os oes newidiadau sylweddol i ddyluniad yr eiddo. Does dim angen i'r cynllun yma fod i raddfa, ond dylai nodi defnydd pob ystafell a phresenoldeb offer rhagofalon tân. Mae modd i chi dynnu llun o hyn â llaw, ond bydd angen i chi lwytho'r llun yma i gyd-fynd â'ch cais.
Does dim rhaid talu unrhyw ffi am roi gwybod am amrywiad i'ch Trwydded Tai Amlfeddiannaeth. Serch hynny, os ydych chi am ychwanegu ystafelloedd/unedau ychwanegol at eich trwydded gyfredol, bydd angen talu'r gwahaniaeth yn y taliad ffioedd gwreiddiol h.y. Codir £179 am bob ystafell/uned a ychwanegir at y drwydded gychwynnol.
Rhoi gwybod am newid neu amrywiad
Rhoi gwybod am newid neu amrywiad ar-lein