Skip to main content

Gwybodaeth a Data Contractau

 

Mae gan y Cyngor Gofrestr Contractau sy'n darparu rhestr o gontractau a fframweithiau cyfredol.

Diben y rhestr gysylltiadau yma yw rhoi eglurdeb a dangos pryd mae'n rhaid adnewyddu contractau. Mae'r rhestr hefyd yn rhoi gwybod i gyflenwyr cyfredol a darpar gyflenwyr pa nwyddau, gwasanaethau a gwaith mae'r Cyngor yn eu prynu.

Mae'r wybodaeth am bob contract yn cynnwys: 

  • Teitl y Contract - Darparu disgrifiad byr o'r hyn mae'r contract yn ei gynnwys.
  • Prif Gontractwr - Rhestr o'r cyflenwyr llwyddiannus ar gyfer pob fframwaith neu gontract. Mae'r Cyngor yn annog cyflenwyr, mentrau bach, canolig neu feicro a sefydliadau trydydd sector yn benodol, i gysylltu â chyflenwyr llwyddiannus er mwyn dod o hyd i gyfleoedd is-gontractio/ail neu drydedd haen sydd ar gael.
  • Dyddiad Dod i Ben - Y dyddiad mae'r contract neu'r fframwaith yn dod i ben.
  • Cyfeirnod - Rhif unigryw a phenodol ar gyfer pob contract.

Mae'r rhestr yma yn dangos contractau a fframweithiau cyfredol y Cyngor. Dydy'r rhestr ddim yn golygu y bydd yr un nwyddau, gwasanaethau neu waith yn cael eu tendro eto pan ddaw'r contract i ben.

Blaengynllunio

Gofyniad allweddol o'r Bil Caffael newydd bydd bod Cyrff Sectorau Cyhoeddus yn cyhoeddi eu cynlluniau contractio. Diben yr wybodaeth yma yw rhoi gwybodaeth i'r farchnad a chynorthwyo ag eglurdeb. 

Rhaid cynnwys bob contract gyda gwerth amcangyfrifedig mwy na £2 miliwn yng nghynllun Blaengynllunio y Cyngor. Bydd yr Uned Gaffael yn cyhoeddi manylion y contractau yma ar GwerthwchiGymru.

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiad pellach, croeso ichi gysylltu â  ni.

E-bost: caffael@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 281182