Skip to main content

Caethwasiaeth Fodern

Datganiad Caethwasiaeth Fodern Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i fynd i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern ac ni fydd yn goddef unrhyw enghraifft ohono o fewn ei gadwyn gyflenwi.

Beth yw Caethwasiaeth Fodern?

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn mynd yn groes i hawliau dynol sylfaenol. Mae modd iddo ddigwydd ar sawl ffurf, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol a masnachu pobl. Mae pob un o'r enghreifftiau yma'n amddifadu rhyddid unigolion ac yn cam-fanteisio arnyn nhw er budd personol neu fasnachol.

Amcangyfrifir bod Caethwasiaeth Fodern yn effeithio ar hanner can miliwn o bobl ledled y byd, gan gynnwys yn y DU a Chymru. Mae dioddefwyr yn cael eu masnachu ledled y byd am ychydig bach o arian, neu ddim arian o gwbl, ac mae modd iddyn nhw gael eu cludo i mewn i’r DU. Mae modd iddyn nhw gael eu gorfodi i weithio yn y fasnach ryw, caethwasanaeth domestig, llafur gorfodol ac ymgymryd â gweithgaredd troseddol. Mae amaethyddiaeth, hamdden, lletygarwch, arlwyo, glanhau, gwaith dillad, adeiladu a gweithgynhyrchu oll ymhlith y sectorau risg uchel ar gyfer Caethwasiaeth Fodern.

Ein Hymrwymiad a'n Cyfrifoldeb  

Yn unol â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae'r Cyngor yn cydnabod bod ganddo gyfrifoldeb fel cyflogwr i fod yn effro i'r achosion posibl o gaethwasiaeth fodern ac i roi gwybod am achosion neu bryderon o'r fath i'r cyrff perthnasol.

Yn rhan o'i brosesau tendro a chontractio, bydd y Cyngor yn ceisio sicrwydd gan ddarpar gyflenwyr bod gyda nhw brosesau addas a chadarn ar waith i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern yn y sefydliad. Bydd y Cyngor yn disgwyl i gyflenwyr fod yn gyfrifol am ofyn am sicrwydd tebyg gan eu cadwyni cyflenwi eu hunain.

Mae'r strategaethau a pholisïau allweddol sy'n cefnogi'r  datganiad Caethwasiaeth Fodern yn cynnwys:

  • Polisi Caffael sy'n Gymdeithasol Gyfrifol
  • Polisi Chwythu'r Chwiban
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Trwy ddefnyddio Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru (Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi) ar draws ei gadwyn gyflenwi, bydd y Cyngor yn sicrhau bod ei gyflenwyr yn effro i'r ymrwymiad i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl.

Yn unol ag Ymrwymiad 7 Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru (Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi), bydd y Cyngor yn asesu ein gwariant er mwyn cydnabod a mynd i'r afael â materion caethwasiaeth fodern, cam-drin hawliau dynol, ac arfer cyflogaeth anfoesegol. Byddwn ni'n:

  • Cynnal adolygiadau rheolaidd o wariant a chynnal asesiad risg yn seiliedig ar y canfyddiadau, i gydnabod cynnyrch a/neu wasanaethau lle mae risg o gaethwasiaeth fodern a/neu arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol yn y DU a thramor.
  • Ymchwilio i unrhyw gyflenwr y nodwyd ei fod yn risg uchel, trwy ymgysylltu'n uniongyrchol â gweithwyr lle bynnag y bo modd.
  • Gweithio gyda'n cyflenwyr i wirio unrhyw achosion o arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol.
  • Monitro arferion cyflogaeth ein cyflenwyr risg uchel, a'i wneud yn eitem safonol ar yr agenda ar gyfer pob cyfarfod/adolygiad rheoli contract.