Skip to main content

Gwerth Cymdeithasol

Mae'r ffyrdd y mae sefydliadau llywodraeth leol yn caffael yn newid. Yn y gorffennol, mae'n bosibl bod ffocws penodol wedi bod ar edrych ar gaffael fel modd o sicrhau arbedion ariannol. Rydyn ni bellach yn symud i ffwrdd o'r ymagwedd draddodiadol o werthuso prisiau ac ansawdd yn unig, tuag at sicrhau bod deilliannau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol llesol ar gyfer y gymuned leol yn cael eu hystyried yn rhan o bob proses gaffael hefyd. Mae gyda ni gyfrifoldeb i reoli coffrau cyhoeddus gydag uniondeb a pharhau i ddarparu gwerth am arian wrth sicrhau ein bod ni'n darparu deilliannau cynaliadwy sy'n fuddiol i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.

Mae'r dyletswyddau caffael sydd wedi'u cynnwys yn y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (i'w gyhoeddi’n fuan) yn dechrau gyda dyletswydd gyffredinol ar yr awdurdodau sy'n contractio gwaith i geisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd drwy gyflawni caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol. Mae hyn yn golygu cymryd camau i gyflawni'r nodau llesiant a'r nod gwaith teg (y ‘nodau caffael cymdeithasol gyfrifol’), ar gyfer cynifer o brosesau contractio â phosibl.

Er mwyn sicrhau'r buddion ehangach posibl wrth gontractio â sefydliadau allanol mae'n hanfodol bod darparu gwerth cymdeithasol, a chefnogi busnesau bach a chanolig lleol (BBaChau) yn cael eu hystyried yn rhan o'r broses gaffael. Ochr yn ochr â hyn mae arferion teg a moesegol yn eu lle trwy'r cadwyni cyflenwi. Rhaid i ni barhau i ymrwymo i fod yn agored, yn glir ac yn deg i bawb.

Er mwyn diwallu'r gofynion yma, bydd rhaid cynnwys nifer o Fesurau Gwerth Cymdeithasol  ar gyfer pob cyfle tendro gwerth mwy na £75,000.

I weld ein polisi Cyfrifoldeb Cymdeithasol cliciwch yma .