Skip to main content

Cynaliadwyedd

Caffael Cynaliadwy yw'r broses lle mae sefydliadau’n cwrdd â’u hanghenion am nwyddau, gwasanaethau, gwaith a chyfleustodau mewn ffordd sy’n rhoi gwerth am arian ar sail oes gyfan gan greu budd nid yn unig i'r sefydliad ond hefyd i gymdeithas ac i’r economi lleol gan leihau difrod i’r amgylchedd ar yr un pryd.

Mae modd i Gaffael Cynaliadwy gynnwys yn canlynol. Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr:

  • creu busnesau, swyddi a sgiliau newydd yn yr ardal leol
  • gwella amrywiaeth o ran cyflenwyr, arloesi a chydnerthedd
  • mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau gwastraff
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i ddod yn fwy cynaliadwy trwy'r broses gaffael. Mae'r Cyngor yn deall bod gan ein penderfyniadau caffael effeithiau amgylcheddol (e.e. yr angen i leihau allyriadau CO2 a chyfanswm y gwastraff sy'n cyrraedd safleoedd tirlenwi) ac economaidd-gymdeithasol (e.e. creu cyfleoedd cyflogadwyedd a hyfforddi) ar lefel leol a chenedlaethol. Felly, mae'r Cyngor yn ymdrechu i hyrwyddo proses gaffael gynaliadwy trwy ymgysylltu â chyflenwyr i leihau eu hôl-troed carbon trwy ddefnyddio ein Cyfrifiannell Ôl-troed Carbon newydd, cefnogi busnesau lleol bach a chanolig gyda'r Bas Data o Fusnesau Lleol, a chydymffurfio â Chod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru a gweithio tuag at y darged o droi'r sector cyhoeddus yn carbon sero net.