Mae dechrau'r flwyddyn bob amser yn adeg brysur i Awdurdodau Lleol ledled Cymru wrth i ni edrych tuag at bennu'r gyllideb flynyddol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Er gwaetha'r cyfnod economaidd anodd yma, rydyn ni wedi dal ati i fod yn hynod o frwdfrydig, ac rydw i'n siŵr y bydd trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol wedi sylwi ar yr effaith gadarnhaol y mae ein buddsoddiadau ariannol wedi'i gael ar eu cymunedau - boed hynny drwy ddiweddaru ardaloedd chwarae, gwella wynebau ffyrdd neu brosiectau ar raddfa fawr, megis ailddatblygu hen safle Dyffryn Taf ym Mhontypridd a'r gwaith ar y Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar. Rydyn ni'n benderfynol o weld yr ymrwymiadau rydyn ni wedi'u gwneud ar gyfer ein trigolion yn dwyn ffrwyth, ac rwy'n falch o weld bod Aelodau eraill y Cabinet wedi cymeradwyo'r cynlluniau i fuddsoddi £170 miliwn arall er mwyn parhau â'n gwaith dros y tair blynedd nesaf.

Caiff y cynnig yma ei gyflwyno i'r Cyngor llawn ym mis Mawrth. Os bydd yr aelodau'n ei gymeradwyo, yna caiff cyllid allweddol ei ddyrannu. Mae hyn yn cynnwys £500,000 i wella trac athletau a chae pêl-droed Brenin Siôr V, £900,000 i'w fuddsoddi yn ein parciau a'n mannau gwyrdd, £26.199 miliwn tuag at wella ysgolion ac addysg a chyfanswm o £25.996 miliwn ar gyfer Priffyrdd a Phrosiectau Strategol. 

Mae'r cyni cyllidol parhaol yn golygu bod cylchred y gyllideb yn broses barhaus, yn hytrach na mater y mae modd edrych arno ychydig fisoedd ymlaen llaw. Yma yn Rhondda Cynon Taf, sylwon ni fod angen mabwysiadu'r dull gweithredu yma yn gynnar, unwaith y daeth hi'n amlwg bod toriadau i'r sector cyhoeddus am gael effaith hirdymor sylweddol ar ein cyllid. Mae'r dull gweithredu gochelgar yma wedi ein galluogi ni i osgoi gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â thorri gwasanaethau allweddol.

Yn ogystal â chytuno i'r cynigion yma, cytunodd y Cabinet i gymeradwyo cyllideb y Cyngor. Bydd hyn hefyd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn ym mis Mawrth er mwyn sicrhau cymeradwyaeth yr holl Aelodau. Un rhan allweddol o'n dull gweithredu yw edrych yn barhaus ar y ffordd rydyn ni fel sefydliad corfforaethol yn gweithio i sicrhau effeithlonrwydd. Roeddwn i'n falch iawn o weld ein bod ni wedi rhagori ar ein targed uchelgeisiol o £6 miliwn er mwyn helpu i gau'r bwlch yng nghyllideb 2019/20.  Byddwn ni bob amser yn parhau i chwilio am ffyrdd o arbed arian yn fewnol. Serch hynny, rhaid bod yn realistig a chydnabod y bydd sicrhau arbedion o'r fath yn y dyfodol yn anos oni bai fod newidiadau yn cael eu gwneud ar draws y DU mewn perthynas â darparu cyllid teg i Lywodraeth Leol a rhoi diwedd ar gyni yn y sector cyhoeddus.

Wrth edrych ar Gymru gyfan, rydyn ni unwaith eto'n ymdrechu i weld y cynnydd lleiaf yn Nhreth y Cyngor allan o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae hyn yn tystio ein bod ni bob amser wedi ceisio osgoi rhoi ein trigolion dan fwrn y cyni cyllidol. Yn ystod ein hymgynghoriad ar y gyllideb (a gafodd 4,000 o ymatebion), nododd ein trigolion y bydden nhw'n gyfforddus gyda chynnydd o 4.5% yn Nhreth y Cyngor. Er bod y cynnydd yn is na'r ffigur yma, mae e'n parhau i'n galluogi ni i fuddsoddi £5.2 miliwn ychwanegol yn ein hysgolion yn 2019/20, sef cynnydd o 3.5%. Mae e hefyd yn ein galluogi ni i ddiogelu cyllid gofal cymdeithasol rhag pwysau o ran chwyddiant a'r galw o ran costau cynyddol. 

Wedi ei bostio ar 15/02/19