Skip to main content

Cwpan Coffa Lillian Board

 

Mae'r wobr fel arfer yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn er cof am y Rhedwr Dirgel Lillian Board - seren llewyrchaf Athletau Prydain. Lillian oedd rhedwr dirgel Nos Galan 1969. Enillodd y ferch 21 mlwydd oed y fedal arian am redeg 400m yng Ngemau Olympaidd 1968 yn Ninas Mecsico a dwy fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop 1969 yn Athen. Fe oedd hi'n ddewis poblogaidd yn rhedwr dirgel Nos Galan 1969, ond yn anffodus flwyddyn yn ddiweddarach, pan oedd hi'n 22 mlwydd oed, roedd y byd yn galaru drosti.

Lillian Board
lillian-board1

Bu farw Lillian Board o ganser ar 26 Rhagfyr, 1970, bron i flwyddyn i'r diwrnod ers iddi fod yn rhedwr dirgel. Cynhaliwyd ei angladd ar 1 Ionawr, 1971, a chafwyd gwasanaeth coffa yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain, ar 21 Ionawr, 1971.

Bydd hi'n cael ei chofio am byth gan fod Cwpan Coffa Lillian Board yn cael ei gyflwyno i rywun bob blwyddyn.

Mae Cwpan Coffa Lillian Board, sydd wedi'i roi gan ddyn busnes lleol, Russell Bowen a'i wraig Sandra, ar gyfer yr athletwr benywaidd cyntaf o Rondda Cynon Taf i groesi'r llinell derfyn yn y Ras Elît.