Skip to main content

Rasys Nos Galan 2023: Popeth sydd angen i chi'i wybod

 

Rasys Nos Galan 2023: Popeth sydd angen i chi'i wybod 

Beth yw pellter y ras?

Mae'r Ras Hwyl a'r Ras Elît yn 5 cilomedr. Mae'r rasys i blant (8 i 9 oed a 10 i 11 oed) yn un lap o'r dref (600m).

Mae’r rasys i blant (12 i 13 oed a 14 i 15 oed) yn 1.2 cilomedr, neu dau lap o’r dref.

Oes llwybr newydd ar gyfer 2023?

Mae llwybr 2023 yr un fath â’r llynedd. Bwriwch olwg ar y llwybrau, yma (byddan nhw hefyd yn eich pecyn rasys).

Ga i gofrestru ar y noson?

Rhaid cadw lle a thalu amdano cyn yr achlysur. Does dim modd i ni gofrestru pobl ar y noson.

A oes modd rhedeg mewn gwisg ffansi?

Oes, rydyn ni wrth ein boddau yn gweld pobl yn mwynhau’r ras hwyl mewn gwisg ffansi.

Cadwch at y canllawiau canlynol os ydych chi’n dewis rhedeg mewn gwisg ffansi: 

  • Peidiwch â gwisgo gwisgoedd y mae modd eu hystyried yn dramgwyddus neu'n beryglus i wylwyr neu gystadleuwyr eraill.
  • Rhaid i'r gwisgoedd (unigol neu grŵp) fod o faint priodol (h.y. rhaid iddyn nhw beidio â bod yn fwy na 900mm mewn diamedr) er mwyn caniatáu i gystadleuwyr eraill fynd heibio'n ddiogel yn ystod y ras.
  • Rhaid i’r gwisgoedd beidio â chyfyngu ar allu’r cystadleuwyr i gystadlu.
  • Rhaid gwisgo’r gwisgoedd a pheidio â’u gwthio na'u tynnu - h.y. cadeiriau gwthio neu drolïau. 

Os dydych chi ddim yn siŵr a yw eich gwisg ffansi yn addas, cysylltwch â ni er mwyn gwirio gyda ni. Os nad ydych chi’n cydymffurfio â´r canllawiau hyn, fyddwch chi ddim yn cael cymryd rhan yn y ras. 

Oes modd i rywun arall ddefnyddio fy lle os does dim modd i mi redeg neu os ydw i'n penderfynu peidio â rhedeg?

Nac oes. Dim ond enw’r person sydd wedi’i gofrestru all redeg. Does dim modd i unrhyw un arall ddefnyddio eich rhif ras.

Pryd fydda i'n derbyn fy mib ar gyfer y ras?

Byddwch chi'n derbyn pecyn gwybodaeth yn cynnwys eich rhif ras (bib), sydd â sglodyn amseru yn rhan ohono. Bydd pecynnau rasys yn cael eu hanfon yng nghanol mis Rhagfyr, mewn da bryd ar gyfer yr achlysur.

Faint o'r gloch mae'r achlysur yn dechrau?

Mae Rasys Nos Galan yn dechrau am 5pm gyda'r rasys i blant.

Fydd rhaid cau'r ffyrdd?

Bydd. Bydd ffordd ar gau yn Aberpennar er mwyn sicrhau bod modd cynnal Rasys Nos Galan yn ddiogel. Caiff map o'r ardal a fydd ar gau ei gyhoeddi maes o law.

Ble ga i barcio ar y noson?

Bydd gwasanaethau Parcio a Theithio o Ysgol Gyfun Aberpennar (CF45 4DG) a Chae Rygbi Aberpennar/Canolfan Fowlio Dan Do Cwm Cynon (CF45 4DA). Cewch barcio yn y naill un o'r lleoliadau yma a bydd y bws yn mynd â chi rhyngddyn nhw â Neuadd y Dref, Aberpennar (safle bws Gwesty Aberdâr).

Ble ga i newid a gadael fy eiddo?

Canolfan Pennar/Llyfrgell Aberpennar yw'r ardal newid a storio penodedig. Bydd ar agor o 4.30pm tan 8.30pm ar gyfer y rheiny sy'n rasio yn unig. Sylwch, bydd unigolion yn cymryd cyfrifoldeb am adael eu heiddo yno. Mae’r ardal yma ar gyfer y rheiny sy’n cymryd rhan yn unig.

Ga i unrhyw beth am gwblhau'r ras?

Cewch. Bydd pawb sy'n cwblhau'r ras yn derbyn medal a chrys-t Rasys Nos Galan 2023 i goffau'r noson.

A fydd adloniant ar y noson?

Bydd. Bydd ffair hwyl fach i blant ym Maes Parcio Stryd Henry. 

A fydd tân gwyllt?

Bydd. Bydd tân gwyllt enwog Rasys Nos Galan yn dychwelyd ar gyfer 2023, yn ogystal â sioe olau fawreddog i nodi 65 mlynedd ers dechrau Rasys Nos Galan.

A fydd rhedwr dirgel ar gyfer 2023?

Bydd. Ond pwy?!

Sylwch, bydd lluniau yn cael eu tynnu ar y noson ar gyfer hyrwyddo'r achlysur ar y cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau eraill.

Telerau ac Amodau Nos Galan