Skip to main content

Telerau ac Amodau

 

Ymwadiad

Mae cyngor bwrdeistref sirol rhondda cynon taf yn ceisio cynnal a chadw cywirdeb a dibynadwyedd y wefan hon.

Serch hynny, dyw’r cyngor  ddim yn gwneud unrhyw sylwadau am gywirdeb, dibynadwyedd, cyfanrwydd, neu addasrwydd yr wybodaeth, nwyddau, a graffigau cysylltiedig ar y wefan hon at unrhyw ddiben. Fydd cyngor bwrdeistref sirol rhondda cynon taf, ei weithwyr cyflogedig, ei gyflenwyr, a phartïon eraill sy'n ymwneud â chreu a chynnal y wefan hon, ddim yn atebol am unrhyw iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, cysylltiedig, arbennig, neu ganlyniadol, colled, neu anghyfleustra a achosir gan ddibynu ar gynnwys y wefan hon neu sy'n deillio o ddefnyddio'r wefan hon.

Telerau ac amodau defnyddio

Mae cyngor bwrdeistref sirol rhondda cynon taf yn cynnig defnydd o'r wefan hon yn amodol ar y telerau ac amodau canlynol:

  1. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi’n  cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn sy'n dod i rym o'r dyddiad cyntaf i chi ddefnyddio'r wefan. Mae cyngor bwrdeistref sirol rhondda cynon taf yn cadw'r hawl i newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg drwy bostio unrhyw newidiadau ar-lein, drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu postio rydych chi’n cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau ac amodau diwygiedig.
  2. Mae’r wefan hon ar gyfer eich defnydd personol ac anfasnachol. Chewch chi ddim copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, islwytho, postio, darlledu, neu drosglwyddo deunyddiau mewn unrhyw ffordd o gwbl ac eithrio ar gyfer eich defnydd personol ac anfasnacjol eich hun gartref. Bydd caniatad ysgrifenedig y cyngor ar bapur yn ofynnol ar gyfer unrhyw ddefnydd arall.
  3. Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio'r wefan ond at ddibenion cyfreithiol ac mewn modd nad yw'n torri hawliau, neu yn cyfyngu neu atal defnydd a mwynhad o'r wefan hon gan, neu achosi aflonyddwch, anghyfleustra, neu bryder dianghenrhaid i, unrhyw drydydd parti. Mae'r cyfryw gyfyngu atal o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon, difenwol, difrïol, neu sarhaus a allai hwyrach aflonyddu, neu o bosibl achosi gofid, anghyfleustra. Niwsans, neu fygythiad i unrhyw berson, a throsglwyddo cynnwys, brawychus neu fygythiol, neu amharu ar lif arferol dialog yn y wefan hon.
  4. Mae'r wefan hon yn cynnwys cysylltau â gwefannau eraill, nad ydynt o bosibl yn cael eu gweithredu gan y cyngor. Dyw'r cyngor ddim yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, a dyw d ddim yn derbyn unrhyw atebolrwydd a allai o bosibl ddeillio o ddefnyddio'r cyfryw wefannau,
  5. Mae'r cyngor yn ceisio sicrhau fod yr holl wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn wir, ond dyw e ddim yn derbyn unrhyw atebolrwydd am wallau, camgymeriadau, hepgoriadau, a dyw'r cyngor ddim yn gwarantu ychwaith y bydd defnydd o'r wefan yn ddi-dor. Mae'r cyngor yn darparu'r deunydd ar ei wefan ar y sail ei fod yn ymwadu â phob gwarantiad mewn perthynas â'r cyfryw ddeunydd, pu'n a fo wedi'i fynegi neu ymhlyg, goblygiedig, dealledig, neu awgrymedig. Dyw'r cyngor, ei weithwyr cyflogedig, ei gyflenwyr, a darparwyr gwreiddiol y deunydd, ddim yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golli busnes, derbyniadau refeniw, elwon, neu ddifrod neu niwed arbennig boed yn uniongyrchol, anuniongyrchol, cysylltiedig, atodol, damweiniol, arbennig, neu ganlyniadol, sy'n deillio o gyhoeddi'r deunydd ar y wefan hon neu o ddefnyddio'r wefan hon.
  6. Rydych chi'n cydnabod fod yr holl hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawliau hawlfraint, cronfa ddata, c yng ngwefan y cyngor a'i chynnwys yn eiddo i, neu wedi cael eu trwyddedu i, y cyngor, sy'n cael eu defnyddio fel arall gan y cyngor, fel y caniateir gan gyfraith gymwys.
  7. Mae gan y cyngor yr hawl i olygu, gwrthod postio, neu ddileu unrhyw ddeunydd a gyflwynir ar y wefan hon. Dyw'r cyngor ddim yn gyfrifol am, a dyw'r cyngor ddim yn derbyn ychwaith, unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunydd a bostir ar y wefan ac eithrio gan y cyngor. Eiddo'r trydydd partïon dan sylw yw unrhyw farn, cyngor, datganiadau, neu wybobodaeth n arall a fynegwyd, neu y sicrheir eu bod ar gael gan drydydd partïon ar wefan y cyngor. Dyw’r cyngor  ddim yn cymeradwyo, cadarnhau, nac ategu, ac nid yw'n gyfrifol ychwaith am gywirdeb neu atebolrwydd unrhyw gyfryw ddeunydd trydydd parti.
  8. Cyfreithiau cymru a lloegr sy'n llywodraethu'r telerau ac amodau hyn. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o ganlyniad i'r telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i fod yn destun awdurdodaeth llysoedd cymru a lloegr yn unig.
  9. Os cewch hyd i unrhyw beth ar y wefan hon sy'n peri gofid i chi felly cofiwch roi gwybod i chi.
  10. Os ydych chi’n anfodlon ar unrhyw ran o'r wefan hon, neu ar unrhyw un neu rai o'r telerau ac amodau defnyddio, byddwch gystal â rhoi'r gorau i ddefnyddio'r wefan ar unwaith.
  11. Dyw lleoedd yn rasys nos galan ddim yn drosglwyddadwy mewn unrhyw amgylchiadau.
  12. Rydych chi'n cytuno, wrth gymryd rhan yn Rasys Nos Galan, eich bod chi'n gorfforol iach ac yn feddyliol iach i wneud hynny. Rhaid i chi ystyried eich diogelwch eich hunan wrth gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd ffitrwydd neu ymarfer corff. Rydw i'n cytuno fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ddim yn gyfrifol am unrhyw golled na difrod yn sgil cymryd rhan yn Rasys Nos Galan.

  13. Os penderfynir fod unrhyw un neu unrhyw rai o'r telerauac amodau hyn yn anghyfreithlon, annilys, neu mewn ffordd wahanol yn anorfodadwy, yna i'r graddau felly y mae'r teler ac amod rhaid ei hollti a'i ddileu, ac fe gaiff ei hollti a'i ddileu o'r cymal hwn, ac fe fydd y telerau amodau sy'n weddill yn g dal mewn grym, a pharhau i fod yn rhwymol, ac yn gweithredadwy.