Skip to main content

Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad 2019

Mae'r bobl hynny sy'n ymfalchïo yn y Fwrdeistref Sirol wedi'u cydnabod yn swyddogol yng ngwobrau Bro-garwyr Tra Mad y Cyngor.

Unwaith eto, daeth byddin werdd o wirfoddolwyr at ei gilydd i ddathlu'r holl waith da sy'n cael ei wneud bob dydd er mwyn cynnal a chadw gwedd Rhondda Cynon Taf.

Cafodd nifer o bobl eu gwobrwyo am amrediad eang o brosiectau a gweithgareddau ysbrydoledig sy'n ymwneud â'r amgylchedd - gan gynnwys glanhau strydoedd, codi sbwriel a chefnogi gwasanaethau ailgylchu'r Cyngor.

Mae'r Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad, sy'n cynnwys 7 categori, yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad unigolion, ysgolion a grwpiau - ac unwaith eto, roedd yr achlysur yn llwyddiant ysgubol.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant: "Mae Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad yn taflu goleuni ar y gwaith arbennig sy'n cael ei wneud yn ein cymunedau, gan ganolbwyntio ar y bobl a'r prosiectau hynny sy'n gwneud gwir wahaniaeth i'n bywydau. 

"Dyma bobl sy'n ymrwymo i wella'r amgylchedd lleol er lles pawb. Mae Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad yn rhoi'r cyfle perffaith inni wobrwyo pob un ohonyn nhw.

"Dyma ein cyfle i longyfarch eraill ar eu llwyddiannau penigamp ac annog eraill i ddilyn eu hesiampl - a hynny drwy sicrhau bod trigolion yn deall pwysigrwydd ailgylchu a gwella'r amgylchedd.

Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni wneud Rhondda Cynon Taf yn ardal sy'n fwy glân a gwyrdd i fyw a gweithio ynddi ac i ymweld â hi." 

Dyma enillwyr a’r rhai nesaf at y gorau Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad 2019:

Hyrwyddwr Amgylcheddol y Gymuned

  • Casey-Jane Bishop 
  • Christina Shallish Lewis
  • Carys Romney a Julie Barton

Y Prosiect Amgylcheddol Mwyaf Arloesol

  • Rose North a Chyngor Cymuned Brynna
  • Ysgol Gynradd Penygawsi
  • Ysgol Gynradd Treorci

Yr Ymgyrch Amgylcheddol Orau mewn Ysgol

  • Ysgol Gynradd Llanhari
  • Ysgol Gynradd Gymuned Penyrenglyn
  • Ysgol Gynradd Treorci

Y Gymuned Fwyaf Taclus/Y Prosiect Cymunedol Gorau

  • Grŵp Coetir Cwmaman
  • Cymdeithas Lleiniau Garddio Cwm Cynon
  • Pwll Lee Gardens, Penrhiw-ceibr

Hyrwyddwr Amgylcheddol Ysgol (Disgybl)

  • Disgyblion yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog
  • Disgyblion yn Ysgol Gynradd Cymuned Pen-pych
  • Disgyblion Ysgol Gynradd Penygawsi
  • Disgyblion Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain

Hyrwyddwr Amgylcheddol Ysgol (Athro)

  • Danielle Hipkiss - Ysgol Gynradd Cwm Clydach
  • Aled Hughes - Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail
  • Rebecca Jones - Ysgol Gynradd Gymraeg Gymunedol Llantrisant

Carfan Awdurdod Lleol Orau'r Flwyddyn

  • Carfan Glanhau Canol Tref Aberdâr
  • Carfan Gorfodi Tipio'n Anghyfreithlon
  • Carfan Goruchwylio Glanhau'r Strydoedd

Enillydd y Brif Wobr 2019 - Pwll Gerddi Lee, Penrhiw-ceibr