*Dyddiad cau wedi'i ymestyn 30.4.2019*
Ydych chi'n Fro-garwr Tra Mad? Ydych chi'n rhywun sy'n mynd y tu hwnt i'ch dyletswydd i gadw'n Bwrdeistref Sirol yn lân ac yn wyrdd? Neu efallai'ch bod chi'n adnabod rhywun sy'n hybu'r neges yma yn Rhondda Cynon Taf?
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog trigolion i fod yn Fro-garwyr Tra Mad ac i ymladd yn erbyn gwastraff er mwyn cadw'n Bwrdeistref Sirol yn lân ac yn wyrdd, i bawb gael ei mwynhau.
Rydyn ni'n falch o'r ymdrech y mae pobl o bob cefndir yn ei gwneud i greu ac amddiffyn cartrefi, strydoedd, cymdogaethau a chymunedau ecogyfeillgar.
Maen nhw'n dangos eu bod nhw'n dwlu ar eu cymunedau trwy sicrhau eu bod nhw'n ailgylchu cymaint o ddeunydd ag sy'n bosibl, yn codi ymwybyddiaeth materion amgylcheddol yn y gymuned, yn gwirfoddoli a hyd yn oed yn codi sbwriel pobl eraill.
Mae'r fath ymdrech yma yn galonogol ac yn dangos y gall byw bywyd gwyrddach a glanach ddod â chymunedau at ei gilydd, a bod yn hwyl.
Dyna'r rheswm y mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at ei achlysur blynyddol pwysig, ‘Bro-garwyr Tra Mad’.
Bydd gwobrau Bro-garwyr Tra Mad 2019 yn cael eu cynnal er mwyn dathlu ac amlygu'r gwaith arbennig sy'n cael ei wneud gan unigolion, cylchoedd o bobl yn y gymuned a staff gofal y strydoedd, i wneud Rhondda Cynon Taf yn Fwrdeistref Sirol fwy glân a gwyrdd.
Rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Amgylcheddol.
Darllen sut mae cyflwyno cais neu enwebu rhywun am wobr.
Gweld enillwyr Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad 2018.