Skip to main content

Beth yw'r Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad?

Cafodd Gwobrau ‘Bro-garwyr Tra Mad’ Rhondda Cynon Taf eu sefydlu yn 2009 er mwyn cydnabod y gweithgareddau sy'n ysbrydoli ac sy'n helpu i wella'r amgylchedd lleol. Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu chi i ysgrifennu cais trylwyr.

Gwnewch gais ar-lein nawr ar gyfer Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad

Os ydych chi, neu'ch ysgol neu'ch cymuned leol wedi gwneud newidiadau cadarnhaol sydd wedi gwneud gwahaniaeth i'r amgylchedd, yna dylech chi wneud cais. Bydd raid i'ch prosiect ddangos cyfraniad cadarnhaol tuag at yr amgylchedd, a'i fod e wedi cael effaith lesol ar eich ysgol neu'ch cymuned.

Bydd gwobrau’n cael eu rhoi i unigolion, grwpiau cymuned ac ysgolion. Rydyn ni hefyd yn croesawu enwebiadau, felly, os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n haeddu gwobr, rhowch wybod i ni; efallai mai'r person hwnnw fydd yn ennill!

I gystadlu, mae rhaid llenwi ffurflen gais ac mae croeso i chi atodi unrhyw dystiolaeth ychwanegol fel adroddiadau, lluniau neu erthyglau o’r wasg.

Gwobrau ar gyfer trigolion, ysgolion, busnesau a grwpiau cymuned Rhondda Cynon Taf yn unig ydy’r rhain.

Mae 7 categori, ac fe gewch chi gyflwyno cais am gymryd rhan mewn cynifer ohonyn nhw ag yr hoffech chi.

Lawrlwythwch y ffurflenni cais ar-lein